Mae Dr Jenny Baker yn Uwch-gymrawd Trosglwyddo Technoleg yng nghanolfan SPECIFIC, a arweinir gan Goleg Peirianneg y Brifysgol. 

Yn ddiweddar, gwnaeth y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) ddyfarnu Cymrodoriaeth Ymchwilydd Gyrfa Gynnar, sy’n werth £1.3 miliwn, iddi er mwyn datblygu batris â gallu storio penodol sy’n perfformio’n well, sy’n fwy ecogyfeillgar ac sy’n lleihau costau.  

Bydd ymchwil Dr Baker fel rhan o’r gymrodoriaeth yn manteisio ar ddatblygiadau mewn un maes technoleg ffotofoltäig cyflwr solet argraffedig ac yn eu rhoi ar waith ym maes storio electrocemegol. Bydd y gymrodoriaeth hefyd yn caniatáu iddi gynyddu ei thîm sy’n gweithio yn y maes hwn. 

Dr Jenny Baker mewn labordy yn dal tiwb prawf  

Meddai Dr Baker: “Drwy helpu i gynhyrchu cyfran fwy o drydan adnewyddadwy, bydd batris â gallu storio penodol yn lleihau costau ynni ac yn helpu’r DU i gyrraedd ei thargedaar gyfer cyfyngu ar effeithiau trychinebus newid yn yr hinsawdd. I gyflymu’r broses o fasnacheiddio’r prosiect, caiff arddangoswyr eu cynhyrchu a’u profi mewn adeiladau carbon isel a adeiladwyd fel rhan o brosiect Canolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC. 

Mae Dr Baker yn frwd dros gynaliadwyedd ac yn ddiweddar aeth ati i sefydlu Pwyllgor Cynaliadwyedd o fewn SPECIFIC, er mwyn annog aelodau o staff yn y prosiect ac ym mhob rhan o’r Brifysgol i fod yn fwy ecogyfeillgar yn y gweithle. 

Yn ogystal, Dr Baker yw arweinydd Prifysgol Abertawe o ran M-RHEX, sef prosiect batris ar y cyd rhwng ymchwilwyr sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ym maes deunyddiau. Hi oedd enillydd gwobr ymchwil ac arloesi Prifysgol Abertawe yn y categori unigolyn mwyaf addawol ar ddechrau gyrfa ym mis Ionawr 2020. Roedd y wobr yn cydnabod ei gwaith wrth sefydlu grŵp ymchwil storio electrocemegol newydd, a'i chymrodoriaeth uchel ei bri gan EPSRC.  

Bu Dr Baker yn gyfrifol am greu Welshwomenwiki, gan hyfforddi pobl i gyfrannu at Wikipedia, hyrwyddo menywod ysbrydoledig o Gymru, a lleihau'r rhagfarn bresennol ar sail rhywedd ar Wikipedia. Mae wedi cael cyllid i gefnogi a chynnal achlysuron allgymorth i fenywod megis y digwyddiad Gwyddoniaeth Bocs Sebon cyntaf yng Nghymru, ac mae'n cynnal gweithgareddau allgymorth mewn ffeiriau gwyddoniaeth ac ysgolion er mwyn annog plant i ymddiddori mewn peirianneg. Mae'n aelod o'r Women’s Engineering Society ac mae'n cynnal digwyddiadau ar ei rhan.