Mae Jeff Towns yn un o arbenigwymwyaf blaenllaw'r byd ar y bardd Dylan Thomas. Ym mis Gorffennaf 2017, cyflwynwyd gradd er anrhydedd iddo gan Brifysgol Abertawe. 

Gwerthwr llyfrau hynafol wrth ei waith, mae Jeff Towns yn byw yn Abertawe, tref enedigol Dylan Thomas, ac mae wedi treulio oddeutu 40 mlynedd yn chwilio am drysorau a adawyd gan y bardd, a’u diogelu. O ganlyniad i’r diddordeb hwn, mae bellach yn meddu ar gyfoeth o wybodaeth am Dylan Thomas, cysylltiadau helaeth a llawer o lawysgrifau, nodiadau, llythyrau, lluniau a llyfrau. 

Mae casgliadau Jeff Towns sy’n ymwneud â Dylan Thomas yn bresennol mewn amgueddfeydd a sefydliadau o gwmpas y byd, o Japan i dalaith Tecsas. Mae ei arddangosfeydd am Dylan Thomas wedi hongian yn Barcelona ac yn y Theatr Genedlaethol Frenhinol yn Llundain, ac maent yn osodyn parhaus yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe. 

Mae wedi gwerthu llyfrau a llawysgrifau prin Dylan Thomas i ffigyrau byd-enwog gan gynnwys Mick Jagger, Bill Clinton, Jimmy Carter, y Tywysog Siarl ac Allen Ginsberg. 

Mae Jeff Towns hefyd yn awdur cyhoeddedig, yn areithiwr, yn wneuthurwr rhaglenni dogfen, yn sylwebydd rheolaidd yn y cyfryngau, ac yn fwy diweddar yn ymgynghorydd artistig sy'n arbenigo ar Dylan Thomas. 

Wrth dderbyn ei ddyfarniad er anrhydedd, dywedodd Mr Towns: "Pan agorais i a'm gwraig Elizabeth ein siop ym 1970, fy nghwsmer cyntaf o ddifrif oedd yr Athro Cecil Price, Pennaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe bryd hynny. Fe ddaeth yn noddwr ac yn gyfaill da. Dros y blynyddoedd, daeth hwn yn batrwm gyda llawer o aelodau staff eraill y brifysgol. Es i ati hefyd i gyflogi llawer o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Abertawe, a gwnaethant oll fy ngwasanaethu i – a'm cwsmeriaid – yn dda. 

Pan ysgwyddodd y brifysgol y cyfrifoldeb am Wobr Dylan Thomas, dechreuais ymgysylltu â'r Athro John Spurr a Dr Elaine Canning yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Arweiniodd y cysylltiad hwn at yr adeg fwyaf cyffrous yn fy mywyd fel gwerthwr llyfrau pan glywais forthwyl yr arwerthwr yn disgyn yn Sotheby's yn 2014, ac roedd fy nghynnig comisiwn llwyddiannus yn golygu bod llawysgrif o gerddi Dylan Thomas a ddarganfuwyd yn ddiweddar yn dod yn ôl i Brifysgol Abertawe – wedi'i hachub ar gyfer Abertawe a Chymru! Ac yn awr yr anrhydedd mawr hwn, sy'n peri i mi deimlo'n hynod falch, ac edrychaf ymlaen at fwy byth o ryngweithio a chydweithio cyfoethog a chyffrous â'r sefydliad mawr hwn."