Mae fy ngwaith ymchwil yn cyd-fynd â’r gweithgareddau arloesi ac ymgysylltu sydd wrth wraidd hanes a threftadaeth Prifysgol Abertawe.  

Fel myfyriwr israddedig yng nghanol gradd meistr integredig ym Mhrifysgol Abertawe, treuliais flwyddyn ym myd diwydiant. Erbyn diwedd fy ngradd, roeddwn wedi cael profiad o ymchwil ddiwydiannol ac ymchwil academaidd ac roeddwn am fod yng nghanol y ddwy ohonynt. Des i o hyd i’r cyfle perffaith fel rhan o gynllun doethuriaethau peirianneg Prifysgol Abertawe, lle’r oeddwn yn gallu parhau i weithio mewn maes pwysig – caledu’n gyflym haenau sy’n cael eu cynhyrchu’n barhaus ar linellau cynhyrchu.  

Dechreuais fy ngwaith ymchwil drwy ganolbwyntio ar ddeunyddiau megis resinau wedi’u caledu â golau uwchfioled ar gyfer sgraffinyddion â haen (h.y. papur llyfnu) a duroedd â haen organig wedi’u caledu â golau isgoch agos ar gyfer gwaith adeiladu (h.y. paent), ond gwnaeth deall faint o waith ymchwil a datblygu sy’n cael ei wneud ar y deunyddiau pob dydd hyn newid sut rwy’n gweld y byd. Mae’r rhan fwyaf o’m ngwaith wedi canolbwyntio ar gyflymu prosesau neu osod deunyddiau newydd yn lle rhai prin neu niweidiol, gan ystyried materion technegol, yn ogystal â cheisio bod yn llwyddiannus yn fasnachol.  

Ian Mabbett mewn labordy yn gwisgo dillad diogelwch

Gweithiais gyda dau aelod arall o staff y Coleg Peirianneg, yr Athro Dave Worsley a Dr Trystan Watson, er mwyn dyfeisio dull o gynhyrchu cell solar yn 2010, gan leihau amser cam cynhyrchu o 30 munud i 12 eiliad a sicrhau y gellid gweithgynhyrchu rolyn i rolyn yn barhaus heb ffwrn fawr. Ar yr adeg hon, sefydlodd yr Athro Worsley Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol (SPECIFIC). Des i’n gymrawd trosglwyddo technoleg yno, gan arwain gwaith o storio ynni am gyfnod cyn cymryd yr awenau yn y ganolfan EngD y graddiais ohoni. Yn ddiweddarach, gwnes i helpu i ailagor yr Adran Gemeg yn Abertawe a derbyn swydd ynddi. 

Yn fwy diweddar, mae fy ngwaith wedi canolbwyntio ar broblemau mewn gwledydd sy’n datblygu. Yn 2014, des i ar draws Sefydliad Bill a Melinda Gates (BMFG) ar hap, gan glywed nad oedd gan 40% o boblogaeth y byd gyfleusterau toiled priodol. O ganlyniad, mae mwy o blant yn marw o ddolur rhydd nag AIDS, malaria a’r frech goch gyda’i gilydd.  

Drwy weithio gyda BMFG, sylweddolais y gallai fy sgiliau innau ac ethos arloesi Prifysgol Abertawe helpu. Y ffaith yw bod angen i dechnolegau sy’n datrys y problemau hyn fod yn fasnachol ymarferol. Mae angen i ni gael gwerth o wastraff drwy greu nwyddau eraill megis tanwydd neu wrteithiau a dŵr glân. Un rhwystr i’r technolegau yw nad oes ffordd ddarbodus o brosesu deunyddiau llaid ymgarthol ymlaen llaw a thynnu’r dŵr ohonynt. Drwy fy ngwaith blaenorol ar sychu, caledu a sintro deunyddiau amrywiol, cefais lawer o brofiad o sychu ymbelydrol a’r ffordd y gall helpu i drin deunyddiau ymlaen llaw, lleihau’r ynni a ddefnyddir a lleihau costau.  

Ar ôl cael y profiad hwnnw, symudais i brosiect SUNRISE, a enillodd wobr am y cydweithrediad rhyngwladol gorau yng ngwobrau Times Higher Education yn 2020.  Mae SUNRISE yn mabwysiadu'r cysyniad o ‘adeiladau ynni gweithredol’ cadarnhaol a ddatblygwyd gan SPECIFIC ac yn ei roi ar waith ledled gwledydd deheuol y byd, gan ganolbwyntio'n benodol ar India. Mae SUNRISE yn un o astudiaethau achos OECD ar gyfer defnyddio ymchwil amlddisgyblaethol i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol, gan weithio gyda chymunedau lleol i gyd-greu isadeiledd addas a chymryd rhan yn y broses gyfan, o arloesi gwyddonol i sefydlu cadwyni cyflenwi ar gyfer technolegau newydd gyda phartneriaid diwydiannol.  

Erbyn hyn, mae ymagweddau systemau cyfan at ddatgarboneiddio isadeiledd wedi mynd â'm bryd. Yn hytrach na meddwl am adeiladau, trafnidiaeth, ynni, diwydiant a natur ar wahân, rwy'n tynnu sylw at y ffordd y mae isadeiledd yn gallu cydweithio a'r ffordd y mae pobl yn rhyngweithio â'r systemau cyfun hyn a'u profiad ohonynt. Yn gysylltiedig â hyn, rwy'n ymddiddori'n gynyddol mewn cydweithrediadau ag artistiaid a phobl sy'n adrodd straeon. Os gallant ein helpu i ailddychmygu dyfodol llawn gobaith, gallant ysbrydoli'r arloeswyr i'w greu.