Elin Manahan Thomas yn graddio

Cafodd Elin Manahan Thomas ei geni yng Ngorseinon a'i haddysgu yn Ysgol Gyfun Gŵyr. Dechreuodd wersi canu yn chwe blwydd oed ac o'r dechrau, dywedodd ei hathro canu - a ddysgodd y tenor byd-enwog Denis O'Neill pan oedd yntau'n fachgen soprano ifanc - y gallai, mewn amser, fod yn gantores broffesiynol.   

Yn ifanc yn ei harddegau ymunodd â Chôr Bach Abertawe. Yno, meistrolodd y grefft o ddarllen sgôr cerddoriaeth. Enillodd ysgoloriaeth gorawl i Goleg Clare yng Nghaergrawnt lle enillodd radd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Eingl-Sacsoneg, Norseg a Chelteg.  Aeth ymlaen i gwblhau MPhil, ac yn 2001 dilynodd astudiaethau llais ôl-raddedig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd Llundain. 

Cafodd wahoddiad i ymuno â Chôr Montaverdi, dan Syr John Eliot Gardiner, ac yn 21 oed, hi oedd aelod ifancaf erioed y Côr. 

Yn syth ar ôl iddi ymuno, aeth y Côr ar daith i Eglwysi Cadeiriol mawr Ewrop a wnaeth bara am flwyddyn. Roedd y digwyddiad, a oedd yn cynnwys perfformiadau o holl gantatau crefyddol Bach, yn un o’r prosiectau diwylliannol uchel eu bri i ddathlu'r mileniwm yn y DU. 

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, cafodd ei gwahodd gan Syr John Eliot Gardiner i fod yr unawdydd cyntaf i recordio darn gan Bach a oedd newydd ei ddarganfod, Alles mit Gott, nad oedd wedi'i berfformio ers yn gynnar yn y 18fed ganrif, sy'n gwneud y recordiad yn un o bwysigrwydd hanesyddol. 

Enillodd ei chymeradwyaeth fawr gyntaf am ei "Pie Jesu" ar recordiad arobryn NAXOS o Requiem Rutter a swynodd gynulleidfa o fwy na biliwn o wylwyr ledled y byd gyda pherfformiad o Eternal Source of Light Divine gan Handel yn Seremoni Agoriadol Gemau Paralympaidd Llundain yn 2012. Rhoddodd berfformiad cyntaf y byd o Requiem Syr John Tavener yn Eglwys Gadeiriol Lerpwl ac mae hi wedi derbyn gwahoddiadau uchel eu bri i berfformio ym mhedwar ban byd. 

Ond nid soprano fyd-enwog yn unig yw Elin Manahan Thomas. Mae galw mawr amdani hefyd fel cyflwynydd a darlledwr, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae hi wedi'i henwebu am wobr BAFTA ddwywaith. 

Yn 2013, cyflwynodd Prifysgol Abertawe radd er anrhydedd i Ms Thomas. Wrth dderbyn ei gradd, meddai: "Rydw i wrth fy modd i dderbyn y Dyfarniad er Anrhydedd hwn ac rydw i wedi fy synnu'n llwyr ganddo. Fel merch wedi'i geni a'i magu yn Abertawe, gyda dau riant sydd wedi astudio yn y Brifysgol, a thad sydd wedi bod yn athro yma am flynyddoedd lawer, rydw i'n teimlo cysylltiad dwfn â'r Brifysgol. 

"Fel plentyn treuliais lawer o ddiwrnodau'n chwarae ar y campws, yn ymweld â'r siop lyfrau a'r llyfrgell, ac yn enwedig yn mynd i ddigwyddiadau yn Taliesin. Mae teimlo fmod yn rhan o hynny i gyd yn destun cyffro. Rydw i'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Brifysgol yn y blynyddoedd sydd i ddod ac at sefydlu cysylltiad cryf â staff a myfyrwyr fel ei gilydd. Mae hi wir yn teimlo fel dod adref!"