Graddiodd David, chwaraewr boccia sydd wedi bod yn fuddugol ym Mhencampwriaeth y Byd ac yn y Gemau Paralympaiddo Brifysgol Abertawe gydag MEng mewn Peirianneg Awyrofod yn 2014. 

Beth ddaeth â chi i Brifysgol Abertawe? 

Roeddwn i am astudio Peirianneg Awyrofod a’r prif atyniadau oedd staff y cwrs, yr awyrgylch cyffredinol a’r traeth.   

Beth yw eich hoff atgofion o astudio yn Abertawe? 

Y teithiau astudio a oedd yn ymwneud â hedfan, megis y labordy hedfan yn Cranfield neu hedfan o gwmpas penrhyn Gŵyr.  

David Smith yn dal medal aur  

Sut gwnaethoch chi gydbwyso gofynion eich gradd â’ch gyrfa fel chwaraewr boccia rhyngwladol? 

I ddechrau, bues i’n astudio’n amser llawn gan nad oeddwn i’n gorfod canolbwyntio’n ormodol ar fy ngyrfa chwarae. Fodd bynnag, gwnaeth boccia ddatblygu’n gyflym fel camp ryngwladol ac roedd angen gohirio rhannau o’m gradd wrth i’r Gemau Paralympaidd yn Llundain yn 2012 nesáu. Roedd y Brifysgol yn gymwynasgar iawn a gwnaed popeth posib i’m cefnogi, gan gynnwys caniatáu i mi aros mewn neuadd breswyl fel y gallwn barhau i ymarfer drwy gydol yr haf. 

Sut gwnaethoch chi ddechrau chwarae boccia? 

Gwnes ddechrau chwarae yn yr ysgol gynradd oherwydd ei bod yn ysgol anghenion arbennig, gan gystadlu am y tro cyntaf pan oeddwn i’n chwech oed mewn cystadleuaeth yn Stoke Mandeville 

Sut byddwch chi’n disgrifio boccia i bobl nad ydynt yn gwybod unrhyw beth am y gamp? 

Mae boccia yn gamp sy’n debyg i fowls ar gyfer pobl sydd ag anableddau corfforol (yn ogystal â bod yn gamp boblogaidd mewn gerddi yn Ewrop). Fel yn achos boule, rydym yn chwarae gyda pheli lledr meddal ar gwrt caled dan do yr un maint â chwrt badminton. Mae ap ar gael o’r enw Boccia Battle sy’n realistig iawn ac sy’n rhoi dealltwriaeth dda i chi.  

Rydych chi wedi cystadlu yn y Gemau Paralympaidd mewn ledled y byd. Beth yw’r teimlad wrth chi gynrychioli eich gwlad yn rhyngwladol? 

Rwy’n teimlo’n freintiedig fy mod i wedi cael bod yn rhan o Boccia UK a chynrychioli fy ngwlad, ac mae’n bleser clywed yr anthem yn y rhan fwyaf o leoedd rwy’n mynd iddynt. Hefyd, mae difyrru a disgleirio fel chwaraewr o flaen gwylwyr yn destun boddhad mawr. 

Beth oedd eich teimlad pan wnaethoch chi ennill eich medal aur gyntaf yn y Gemau Paralympaidd? 

Roeddwn i’n hapus ac yn emosiynol gan mai buddugoliaeth i ni fel tîm ydoedd, felly roedd fy ffrindiau a’m cydchwaraewyr wedi ennill yn ogystal â fi fy hun. Enillais i fy medal aur gyntaf ar drothwy Wythnos y Glas yn Abertawe; felly, roedd hi’n hawdd dathlu!  

Rydych chi wedi bod yn bencampwr y byd ac yn bencampwr Olympaidd. Chi yw chwaraewr boccia mwyaf llwyddiannus Prydain erioed. Beth sydd nesaf? 

A bod yn fanwl gywir, rwyf wedi bod yn bencampwr Paralympaidd. Efallai nad oes llawer o wahaniaeth yn ôl pob golwg, ond mewn gwirionedd mae gwahaniaeth sylweddol rhwng agweddau penodol ar y diwylliant. Rwy’n falch o fod yn gystadleuydd Paralympaidd yn hytrach nag yn gystadleuydd Olympaidd. Yn wir, fi yw chwaraewr mwyaf llwyddiannus Prydain ar y cyd â Nigel Murray MBE, felly fy nod yw gosod record newydd a bod y chwaraewr BC1 cyntaf erioed i amddiffyn teitl Paralympaidd yn llwyddiannus.    

Cawsoch eich anrhydeddu ag MBE oherwydd eich cyflawniadau. Beth oedd eich teimlad wrth fynd i’r palas i dderbyn yr anrhydedd? 

Roeddwn i’n teimlo’n falch iawn wrth dderbyn yr MBE. Roedd fy rhieni a’m cynorthwy-ydd chwaraeon gyda fi ac roedd cael mynd â’m rhieni i Balas Buckingham yn deimlad arbennig. 

Heblaw am chwarae Boccia, beth ydych chi’n ei wneud yn ystod eich amser hamdden? 

Mae llawer o amser hamdden gan bawb ar hyn o bryd! Fodd bynnag, gan fy mod i’n hynod brysur fel arfer, rwy’n mwynhau ymlacio gartref a threulio amser yng nghwmni fy ffrindiau a’m teulu.  

Pa gyngor sydd gennych i unrhyw un sy’n ystyried astudio yn Abertawe? 

Achubwch ar y cyfle! Mae’n ddigon pell i ffwrdd i atal eich rhieni rhag ymyrryd yn eich bywyd os ydych chi’n byw yn Lloegr! Mae golygfeydd hardd ym mhob man ac mae’r bobl yn groesawgar ac yn gyfeillgar iawn.