Mae Ceryn Evans yn gweithio yn yr Ysgol Addysg yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau Prifysgol Abertawe. Mae ei hymchwil yn archwilio penderfyniadau pobl ifanc i ddilyn llwybrau gwahanol yn hytrach na mynd i brifysgol. 
 
Mae mynd i brifysgol wedi dod yn gam nesaf 'normadol' i lawer o bobl ifanc sy'n gadael ysgol neu goleg yng Nghymru a Lloegr. Mae'r mwyafrif o bobl ifanc 18 oed nawr yn parhau mewn addysg uwch amser llawn. Fodd bynnag, mae lleiafrif o bobl ifanc syn dewis llwybrau ac eithrio prifysgol, er bod ganddynt ganlyniadau Safon Uwch da neu gymwysterau galwedigaethol. Nod fy ymchwil yw deall pam mae rhai pobl ifanc, er eu bod yn gymwys i fynd i brifysgol, yn dewis opsiynau gwahanol. Mae hefyd yn ceisio deall pa lwybrau gwahanol y maent yn bwriadu eu dilyn.

Ceryn Evans o flaen cefndir deiliog

Hyd yn hyn, rwyf wedi cynnal cyfweliadau ag ugain o bobl ifanc sy'n astudio cyrsiau Safon Uwch neu gymwysterau galwedigaethol mewn colegau addysg bellach yng Nghymru. Fel arfer, mae'r bobl ifanc hyn yn gobeithio dechrau prentisiaeth neu gwrs hyfforddi, dod o hyd i swydd neu ddychwelyd i goleg ar gyfer astudiaethau pellach ar ôl cwblhau eu hastudiaethau presennol. 
 
Datgelodd y cyfweliadau gymhlethdod penderfyniadau pobl ifanc a'r myrdd o resymau dros ragweld ystod o lwybrau gwahanol. Ar gyfer y rhai sy'n gobeithio dechrau prentisiaeth, roedd eu penderfyniadau wedi'u cymell gan atyniad ennill bywoliaeth, ennill profiad gwaith a chyflogaeth sicr. Roedd un person ifanc, er enghraifft, am fod yn gyfrifydd, felly roedd prentisiaeth cyfrifeg yn ddeniadol iawn iddo ef am ei bod yn cynnig cyfle i ennill cyflog wrth gael hyfforddiant. I eraill, roedd ymdeimlad o hunaneffeithiolrwydd, cymhelliant ac agweddau tuag at waith academaidd hefyd wedi dylanwadu ar eu penderfyniadau, yn ogystal â phryderon ynghylch pwysau amgylchedd academaidd prifysgol. Er enghraifft, roedd gan ddau o'r cyfweleion bryderon sylweddol ynghylch pwysau academaidd mewn prifysgol, gan adlewyrchu eu hanesmwythyd eu hunain ynghylch arholiadau ac anawsterau o ran hunangymhelliant. 
 
Pam dylai fod gennym ddiddordeb mewn storïau grŵp gweddol fach o bobl ifanc? Mae eu hanesion yn dweud rhywbeth pwysig wrthym am gyd-destunau economaidd cyfoes penderfyniadau pobl ifanc. Ar adeg pan fo'r farchnad lafur yn orlawn ac yn gystadleuol, a chostau addysg uwch yn codi, a yw llwybrau gwahanol tuag at gyflogaeth yn fwy deniadol i bobl ifanc? Ar ben hynny, o ystyried bod gwahanol lwybrau yn gysylltiedig â gwahanol gyfleoedd cyflogaeth a bywyd, mae'n bwysig rhoi sylw i’r gwahanol lwybrau y mae pobl ifanc yn eu dilyn a chyrchfannau posib y llwybrau hyn er mwyn deall sut mae patrymau anghydraddoldeb cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig yn datblygu ac yn ailddatblygu, sut cânt eu had-drefnu neu’u torri. 
 
Hyd yn hyn, rwyf wedi cyflwyno fy ymchwil i grŵp ymgynghorol, a bydd ei awgrymiadau a'i gyngor yn amhrisiadwy ar gyfer llywio cyfeiriad y prosiect yn y dyfodol. Mae gan yr astudiaeth botensial mawr i hwyluso datblygiadau polisi hirdymor ym meysydd addysg bellach, addysg uwch a hyfforddiant galwedigaethol, felly bydd yn werthfawr i lunwyr polisi yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig. 
 
Mae'r gwaith ymchwil wedi cael ei gefnogi’n hael gan yr Academi Brydeinig.”