Caroline Stotesbury o flaen baner coch, gwyn a glas 

Graddiodd Caroline o Brifysgol Abertawe yn 2009 gyda BA mewn Astudiaethau Americanaidd. Mae hi bellach yn Is-gonswl Prydain yn Swyddfa Is-gennad Prydain yn Houston, gan gynorthwyo dinasyddion Prydain dramor yn Arkansas, Colorado, LouisianaTecsasMecsico Newydd ac Oklahoma. 

Pam dewisoch chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe? 

Penderfynais i astudio yn Abertawe bron yr eiliad y gadawais i’r trên o Lundain ar gyfer y diwrnod agored. Rwy’n cofio mynd ar daith o gwmpas y campws (Singleton oedd yr unig gampws ar y pryd) a ches i fy nghroesawu mewn modd hynod gyfeillgar o’r dechrau. Hefyd, roeddwn i’n dwlu ar y ffaith bod y campws mor agos at y môr. Yr amlinelliad o’r cwrs oedd yr un mwyaf diddorol roeddwn i wedi’i weld ac roedd yr athrawon yn croesawu trafodaeth, sylwadau ac adborth. 

Beth yw uchafbwyntiau eich amser fel myfyriwr? 

Y ffrindiau cwrddais i â nhw, rhaid dweudRwy’n agos iawn o hyd at ffrindiau cwrddais i â nhw drwy fy swydd ran-amser – myfyrwyr oedden nhw i gyd hefyd  yn ogystal â nifer o’m cyd-breswylwyr. Yn ystod Covid-19, mae ein grŵp WhatsApp wedi bod ar dân! 

Roedd y gemau Farsity blynyddol yn uchafbwynt hefyd. Un flwyddyn, daeth fy mrawd iau ac ymunodd â ni ar gyfer gêm Farsity – roedd yn hyfryd gallu rhannu fy mhrofiad prifysgol â’m teulu a chawson nhw amser gwych bob tro daethon nhw i ymweld â mi. 

Beth wnaethoch chi ar ôl graddio?  

Roeddwn i’n hynod ffodus i gael cynnig swydd yn Disney World fel rhan o’r Rhaglen Cynrychiolwyr Diwylliannol. Yn ystod y flwyddyn honno, ces i gyfleoedd i deithio ledled yr Unol Daleithiau, gan gwrdd â llawer o bobl o daleithiau a chefndiroedd gwahanol. Ar ôl i mi ddychwelyd, cyflwynais i gais am swydd yn Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Llundain, lle bues i’n gweithio am y pedair blynedd nesaf, cyn symud i Decsas gyda fy ngŵr. 

Ar hyn o bryd, chi yw Is-gonswl Prydain ar gyfer taleithiau Tecsas, Arkansas, Colorado, Louisiana, Mecsico Newydd ac Oklahoma. Allwch chi esbonio dyletswyddau eich rôl? 

Rwy’n gyfrifol am ddarparu cymorth consylaidd i ddinasyddion Prydain sydd mewn trafferthion, yn yr ysbyty neu yn y carchar. Rwy’n cefnogi aelodau teulu yn dilyn profedigaeth, os caiff plentyn ei herwgydio neu mewn materion gwarchodaeth ac yn darparu cyngor a chymorth yn dilyn achos o drais rhywiol neu ymosodiad. Rwy’n prosesu ceisiadau am basbort brys, yn cynrychioli Llywodraeth Prydain mewn digwyddiadau consylaidd ac yn darparu cymorth consylaidd mewn argyfwng. 

Ydy Covid-19 wedi effeithio ar eich rôl? 

Mae Covid-19 wedi ein gorfodi i addasu. Does dim modd bellach i ni gael cyfarfodydd wyneb yn wyneb â’r rhai sy’n gofyn am gymorth consylaidd, felly mae’r holl gymorth yn cael ei ddarparu dros y ffôn neu drwy e-bost. 

Ydy eich amser yn Abertawe wedi effeithio ar eich rôl o gwbl? 

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weld datblygiad parhaus Partneriaeth Strategol Tecsas. Yn bersonol, rwyf wrth fy modd pan ddaw cynrychiolydd o Abertawe i ymweld â Thecsas! Mae’n gyfle i mi hel atgofion, clywed y diweddaraf am y gwaith i ehangu’r campysau a chael newyddion o’r ardal. 

Beth byddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n ystyried dod i Abertawe i astudio? 

Mae Prifysgol Abertawe’n lle gwirioneddol wych i gael eich gradd. Mae’r cyfleusterau’n rhagorol, ond yr amgylchedd, y diwylliant a’r profiad yw’r pethau a fydd yn gwneud eich amser yno’n fythgofiadwy. Mae cannoedd o gymdeithasau, gweithgareddau allgyrsiol ac ardaloedd lleol hyfryd. Mae’r cyfleoedd i fwynhau bywyd myfyriwr yn ddiderfyn!