Llun pen o Angharad Colinese

Pan ddaeth y pandemig coronafeirws, atebodd myfyrwyr bydwreigiaeth o Brifysgol Abertawe'r galw drwy gefnogi gweithwyr rheng flaen y GIG.  

Cytunodd myfyrwyr yn nhrydedd flwyddyn eu gradd bydwreigiaeth i ymestyn eu hymarfer clinigol er mwyn eu galluogi i helpu bydwragedd cymwysedig i ofalu am fenywod a'u teuluoedd mewn unedau bydwreigiaeth mewn byrddau iechyd ledled de Cymru.  

Roedd Angharad Colinese, sy'n 25 oed ac yn hanu o Gorseinon, yn eu plith ac roedd yn benderfynol o wneud popeth posib i helpu ei phroffesiwn.

“Yn ddealladwy, roeddwn yn poeni pan glywais am yr argyfwng a'r effaith y gallai ei chael ar y byd, fy nheulu, fy iechyd a'm gradd.  

“Roeddwn yn agos at ymgymhwyso fel bydwraig, felly roeddwn yn poeni ynghylch effaith Covid-19 ar fy ngallu i ymgymhwyso'n brydlon.  

 “Fodd bynnag, dechreuais ym maes bydwreigiaeth er mwyn ceisio helpu i gefnogi menywod a theuluoedd, ac mae hyn yn bwysicach ar hyn o bryd nag erioed.  

 “Gobeithio y bydd cynyddu ein horiau ymarfer yn ein helpu i roi'r cymorth gorau posib i'n cydweithwyr a'u galluogi i barhau i ddarparu'r gofal gorau posib i fenywod a theuluoedd.  

 “Yn ystod y pandemig, mae llawer o'r bobl sy'n gweithio yn y GIG yn mynd gam ymhellach er mwyn helpu i ddarparu'r gofal gorau posib i'r rhai y mae ei angen arnynt, dan amgylchiadau heriol yn aml.”  

 Aeth Angharad ymlaen i ganmol adran bydwreigiaeth y Brifysgol am y gefnogaeth a roddwyd i'r myfyrwyr cyn iddynt benderfynu derbyn eu lleoliadau estynedig.  

 “Mae'r staff bob amser yn mynd gam ymhellach er lles eu myfyrwyr.”  

 

Dywedodd yr Athro Ceri Phillips, pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, ei fod yn falch iawn o'r cyfraniad roedd Angharad a'i chyd-fyfyrwyr yn barod i'w wneud er mwyn helpu'r GIG yn ystod y sefyllfa ddigynsail.