Mae'r Athro Amy Brown wedi ymroddi'i gyrfa ym Mhrifysgol Abertawe i gynyddu dealltwriaeth o fwydo ar y fron, gan helpu i greu amgylchedd a diwylliant lle mae bwydo ar y fron yn arferol, yn cael ei werthfawrogi ac yn cael ei gefnogi. Mae wedi cyhoeddi'n helaeth ac mae ei gwaith wedi'i ddarllen mewn gwledydd ledled y byd. Yn ddiweddar, mae wedi cyhoeddi tri llyfr newydd sy’n amlygu'i hymchwil ymhellach.

“Des i i Abertawe yn fyfyrwraig israddedig yn 2000, ac es i ymlaen i astudio MSc ac yna PhD yma hefyd.

“I ddechrau, roedd fy PhD yn mynd i ymchwilio gordewdra, magu plant a phlant hŷn, ond yn fy mlwyddyn gyntaf, ces i fabi. Cyflwynodd hyn fi i fyd bwydo babanod ac iechyd meddwl mamau. Cwrddais â chynifer o fenywod a oedd am fwydo ar y fron, ond a oedd yn cael anawsterau. Penderfynais newid pwyslais fy ymchwil er mwyn ceisio deall pam roedd y sefyllfa mor gymhleth a sut gallem fynd ati i newid pethau.

“Ers hynny, ochr yn ochr â chydweithwyr a myfyrwyr, rwyf wedi cyhoeddi dros gant o erthyglau, llyfrau a phenodau llyfrau ar brofiadau menywod o fwydo babanod a'r gefnogaeth y mae ei hangen arnynt. Mae hyn wedi arwain at ddatblygu ein canolfan ymchwil newydd, LIFT (Llaethiad, Bwydo Babanod ac Ymchwil Trawsfudol), sy’n ceisio dileu'r rhwystrau niferus y mae llawer o fenywod yn eu hwynebu wrth fwydo'u babi.

“Ein nod sylfaenol yw newid y darlun mwy – rydym am wneud yn siŵr bod pob menyw sy'n cael babi ac sydd am fwydo ar y fron yn cael y gefnogaeth gywir gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a’i chyflogwr, a'i bod yn bwydo ar y fron mewn cymdeithas nad yw'n ei beirniadu nac yn ceisio'i hatal rhag gwneud hynny. Rydym am i hyn fod yn rhan o ddiwylliant ehangach sy'n gwerthfawrogi mamau a theuluoedd newydd, ac sy'n cynnig absenoldeb mamolaeth â thâl uwch a threfniadau gweithio hyblyg.

“Rydym wedi gweld tipyn o gynnydd yn hyn o beth, gan gyflwyno ein hymchwil i seneddau’r Deyrnas Unedig, Awstralia a Seland Newydd, gyda'n hymchwil yn ategu polisïau bwydo babanod ledled y byd. Mae Strategaeth Bwydo ar y Fron newydd Adran Iechyd Awstralia, er enghraifft, yn tynnu'n gryf ar ein hymchwil ac yn ystyried bod yr ymagwedd hon yn hanfodol i sicrhau newid go iawn.

“Yn bwysicaf oll, rydym am i bobl weld bwydo ar y fron fel cyfrifoldeb cymdeithasol, nid unigol, gan roi terfyn ar y diwylliant hwn o ddiffyg buddsoddi a phwyslais unigol sy'n arwain at fenywod yn beio eu hunain pan nad yw bwydo ar y fron yn gweithio.

“Hoffwn allu dweud ein bod wedi datrys y broblem a bod pob menyw nawr yn cael y gefnogaeth y mae ei hangen arni, ond mae pethau'n sicr yn mynd i'r cyfeiriad cywir.”

Mae llyfrau newydd yr Athro Brown, Informed is best: how to spot fake news about your pregnancy, birth and baby; Why breastfeeding grief and trauma matters; ac A guide to supporting breastfeeding for the medical profession ar gael nawr.