Mae Alys Einon yn Athro bydwreigiaeth, yn hyrwyddwr LGBT ac yn awdur. Yma, mae'n trafod yr hyn sy'n ysbrydoli ei gwaith ysgrifennu.  

Rwy'n dwlu ar fod yn y man iawn i ysgrifennu, naill ai siop goffi dda â golygfa, neu fy nesg hyfryd yn fy stydi, neu allan yn y fan gyda'r tywyll gwyllt yn rhuo o'm cwmpas. Gall ysgrifennu fod yn waith blinedig ond, yn y pen draw, mae'n fy symbylu gan ei fod yn gwneud i mi deimlo'n agosach ataf fi fy hun.  

Yn hytrach na defnyddio fformiwla wrth ysgrifennu, rwy'n gwneud yn siŵr bod fy nghymeriadau'n newid neu'n datblygu ar ryw adeg. Nid wy'n glynu wrth gonfensiwn pan fyddaf yn ysgrifennu chwaith. Er enghraifft, yn fy llyfr cyntaf, Inshallah, mae un o'r cymeriadau'n annymunol i raddau helaeth ar y dechrau.

Llun pen o Alys Einon

Hefyd, nid yw'r ddau lyfr rwyf wedi'u hysgrifennu, Inshallah a'r un dilynol, Ash, yn gorffen mewn modd hapus traddodiadol – nid yw straeon y cymeriadau'n dod i ben yn daclus. Oherwydd hyn, roedd yn rhaid cael dilyniant i Inshallah – neu gofynnodd fy narllenwyr am un beth bynnag!  

Roeddwn yn saith oed pan sylweddolais fy mod yn dwlu ar ddarllen yn fwy nag unrhyw beth arall. Drwy lyfrau, gallwn fod yn rhywun arall am ychydig, a thrwy straeon am bobl eraill a wnaeth oresgyn heriau a chyflawni eu nodau, cefais help i fod yn fi fy hun. Wrth ddarllen, fi oedd Jo March, Laura Ingalls Wilder, George o The Famous Five, Frodo Baggins ... roeddwn yn gweld fy hun fel arwr hyd yn oed cyn i fi wybod beth oedd arwr, i gyd drwy rym geiriau.  

Roeddwn oddeutu 13 oed pan sylweddolais fod y gallu ynof i ysgrifennu fy stori fy hun. Yn ogystal, sylweddolais am y tro cyntaf y byddai'r ffordd roeddwn yn gweld fy hun a'm bywyd bob amser yn gofyn am ymrwymiad, dyfalbarhad a hunangariad, oherwydd bod y byd yn lle creulon a bod rhai pobl am dorri eich crib neu eich bychanu bob amser 

Gyda fy ymrwymiadau academaidd, nid oes gennyf amser di-ben-draw i ysgrifennu ffuglen, a gall y broses o wneud gwaith ymchwil ar gyfer llyfr fod yn hir. Rwy'n gweithio ar nofel ar hyn o bryd sy'n gofyn am lawer iawn o ymchwil hanesyddol ac mae'n rhaid i fi ymrwymo i wneud hynny. Serch hynny, mae fy swydd a'm gwaith ysgrifennu'n cyd-fynd â'i gilydd yn aml iawn; er fy mod yn addysgu bydwreigiaeth, iechyd, nyrsio ac ymchwil, ceir elfennau cyffredin. Mae llawer o'm gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar naratif, iaith ac ati, felly mae'r ddau beth wedi cydblethu'n dda iawn.  

Pa gyngor y byddwn yn ei roi i ddarpar awduron? Ysgrifennwch. Peidiwch â chaniatáu i neb na dim eich rhwystro. Dewch i ddeall yr hyn sy'n eich sbarduno a'r hyn rydych yn dwlu ar ysgrifennu amdano, a pheidiwch ag ofni cael eich gwrthod.  

Yn olaf, rwy'n cytuno â'r hen ddihareb, ‘ysgrifennwch am yr hyn sy'n gyfarwydd i chi’. Beth bynnag y byddwch yn ysgrifennu amdano, rhaid i ran o'ch profiad ychwanegu ato. Chi sy'n gyfrifol am y stori a'r cymeriadau. Ni all neb newid hynny na'i ddwyn oddi arnoch.