Mae Dr Alex Jones, Uwch-ddarlithydd mewn Seicoleg, yn gwneud ymchwil newydd i faes amgyffred wynebau, o safbwyntiau esblygiadol a chymdeithasol. Esbonia: “Wrth dyfu i fyny, rydyn ni’n cael ein dysgu yn aml i beidio â barnu pobl yn ôl eu golwg. Mae’r syniad bod ein cymeriad ni’n gallu cael ei gyfleu drwy ein hymddangosiad yn un dadleuol ac yn sicr nid yw’n rhywbeth y dylem ei arddelOnd y gwirionedd yw ein bod ni’n barnu pobl yn ôl eu golwg o hyd, yn enwedig eu hwynebau, a hynny’n ddiarwybod i ni ac yn awtomatig. Gan ein bod yn gwybod na ddylem wneud hyn, pam mae’n dal i ddigwydd 

Yn hytrach na pherthyn i bobl real, mae’r wynebau isod yn gyfansoddion o wahanol unigolionMae’r bobl sy’n creu’r wyneb ar y chwith yn hynod allblyg  maen nhw’n hoffi siarad â mwy o bobl mewn partïon. Mae’r rhai sy’n creu’r wyneb ar y dde yn fewnblyg, gan ffafrio noson dawel yng nghwmni llyfr da. Mae pobl sydd â mathau tebyg o bersonoliaethau, yn gyffredinol, yn edrych yn debyg. I ryw raddau, mae wyneb rhywun yn datgelu ei gymeriad 

Llun pen o Alex Jones

Rydw i wedi treulio fy ngyrfa’n astudio’r cysylltiadau rhwng ymddangosiad yr wyneb a nodweddion cymdeithasol. Rydw i wedi archwilio sut mae lliwiadau yn ein croen yn gysylltiedig â’n hiechyd, sut mae gwahaniaethau rhwng wynebau dynion a menywod yn seiliedig ar gyferbyniadau yn unig, sut gellir gweld iselder ac awtistiaeth ar ein hwynebau, a sut mae colur yn newid ymddangosiad yr wyneb i newid canfyddiadau cymdeithasol.  

Dros y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi gweithio ar nifer o brosiectau a ariannwyd sydd wedi ymchwilio i'r cysylltiadau rhwng ymddangosiad ac agweddau ar iechyd. Gyda'r rhaglen Crwsibl Cymru, gwnes i archwilio'r cysylltiadau rhwng wynebau rhedwyr a'u perfformiad cardiofasgwlaidd a'u gallu i redeg, gan ddefnyddio cyllid Cherish-DE i greu cronfa ddata am efeilliaid unfath a dangos y gwahaniaethau rhwng unigolion drwy eu mesuriadau iechyd. Yn fwy diweddar, rwyf wedi bod yn mabwysiadu technegau dysgu peirianyddol a gwyddor data mewn cydweithrediad â phartneriaid diwydiannol lleol i ddarganfod cysylltiadau rhwng ymddangosiad a phryderon cosmetig, gyda'r bwriad o ddatblygu cynhyrchion gosod.  

Ein hwynebau yw’r rhan bwysicaf o’n byd cymdeithasol ni ac mae’r wybodaeth maent yn ei chyfleu amdanom ni’n mynd y tu hwnt i ddim ond mynegiant syml. Mae’n wir bod eich wyneb yn dweud cyfrolau.” 

Dau wyneb wedi’u creu gan nifer o unigolion