Digwyddiad Dathlu Hanes Pobl Ddu yn Abertawe 2026

Teitl y Digwyddiad: Gwersi o’r Rheng Flaen: Gwaith, Eiriolaeth ac Arweinyddiaeth Gymunedol ar ôl Prifysgol Abertawe

Siaradwr: Jeffrey Nsofor (Cyn-fyfyriwr o Brifysgol Abertawe, Cyfrifydd Siartredig, Arweinydd Cymunedol)

Cyflwynydd: Dr Adesola Ademiloye (Cyd-gadeirydd, Rhwydwaith Cydraddoldeb Hil Rhyngwladol Abertawe – SIREN)

Dyddiad ac amser: Dydd Gwener 16 Hydref 2026 (12:30pm - 2:00pm)

Cofrestrwch yma: https://siren-bh.eventbrite.com

Crynodeb: Fel rhan o ddathlu Hanes Pobl Ddu yn 2026, bydd y cyn-fyfyriwr o Brifysgol Abertawe, Jeffrey Nsofor (MSc mewn Cyllid), sy’n gyfrifydd siartredig â phrofiad helaeth o gyllid, rheoli busnes a datblygu, yn rhannu “Gwersi o’r Rheng Flaen:  Gwaith, Eiriolaeth ac Arweinyddiaeth Gymunedol ar ôl Prifysgol Abertawe”.  Gan dynnu ar ei yrfa yn y sector ariannol a’i rôl wirfoddol fel cyfarwyddwr anweithredol gydag elusennau megis Triathlon Cymru, bydd Jeffrey yn myfyrio ar lywio amgylcheddau proffesiynol fel Arweinydd Du, defnyddio eiriolaeth i greu cyfleoedd i bobl eraill a chydbwyso uchelgeisiau gyrfaol ag ymrwymiadau perthnasoedd a chymunedol.  Bydd y sesiwn yn cynnig gwybodaeth ymarferol am gynrychiolaeth, mentora ac effaith ar gyfer myfyrwyr a staff sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd yn y sector ariannol, y sector busnes a’r trydydd sector, wedi’i dilyn gan sesiwn holi ac ateb. Trefnwyd gan Rwydwaith Cydraddoldeb Hil Rhyngwladol Abertawe (SIREN).

Bywgraffiad: 

Mae Jeffrey Nsofor yn Gyfrifydd Siartredig, yn weithiwr ariannol proffesiynol, yn arweinydd busnes ac yn eiriolydd cymunedol sy’n gweithio yn Abertawe. Ac yntau’n gyn-fyfyriwr ôl-raddedig o Brifysgol Abertawe, mae ef wedi datblygu gyrfa sy’n rhychwantu cyllid, rheoli busnes, arweinyddiaeth strategol a datblygu sefydliadol.

Y tu hwnt i’w yrfa broffesiynol mae Jeffrey wedi cynnal ymrwymiad cryf at arweinyddiaeth a gwasanaeth cymunedol. Mae’n Weinidog a Cyfarwyddwr RCCG Place of Victory yn Abertawe, lle mae’n darparu arweinyddiaeth i gymuned amrywiol ac amlddiwylliannol, gyda phwyslais penodol ar ddatblygu pobl, cryfhau teuluoedd a chreu cyfleoedd i bobl eraill ffynnu.

Mae ei brofiad cymunedol ehangach a’i brofiad o’r trydydd sector yn cynnwys gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Anweithredol Triathlon Cymru ac mewn rolau arweinyddiaeth gyda’r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd yn Abertawe. Hefyd, mae’n frwdfrydig am fentora, mentergarwch a chefnogi darpar arweinwyr i ddatblygu’r hyder, y sgiliau a’r strwythurau y mae eu hangen arnynt i fwyafu eu potensial.