Tomi Adegun

Tomi Adegun

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
MSci Biocemeg Feddygol

Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe?

Mae’n wych fel myfyriwr o ran costau byw ac mae pawb mor hyfryd a pharod i’ch helpu! Mae'r traeth yn brydferth, yn enwedig yn y boreau ar fy nhaith bws i'r campws.

Pam wnaethoch chi ddewis astudio eich gradd yn Abertawe?

Rydw i wir yn mwynhau gwaith labordy, ond doeddwn i ddim yn siŵr beth roeddwn am ei wneud yn y dyfodol. Rwy'n hoff iawn o fy nghwrs gan ei fod yn rhoi'r hyblygrwydd i mi astudio pynciau gwahanol ac eang. Mae yna lawer o help cyflogadwyedd hefyd, sydd wedi fy helpu i dawelu fy meddwl am fy nyfodol!

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?

Mae’r holl ddarlithwyr yn wirioneddol angerddol am yr hyn maen nhw’n gwneud ac mae’r darlithoedd yn ddifyr iawn, ond maen nhw hefyd yn hawdd iawn mynd atynt os nad wyf yn deall rhywbeth.

Beth ydych chi'n bwriadu ei wneud ar ôl i chi raddio?

Rwy’n gobeithio parhau i ddilyn y llwybr biocemegol, boed hynny mewn PhD neu ddiwydiant!

Ydych chi'n cymryd rhan mewn tîm/clwb chwaraeon Prifysgol Abertawe?

Chwaraeaf bêl-rwyd ar lefel cymunedol, ac rwyf hefyd yn Ysgrifennydd Cymdeithasol y Gymdeithas Biocemeg a Geneteg. Mae'r ddwy gymdeithas yn wych ac wedi bod yn groesawgar iawn!

A fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?

Rwy'n meddwl bod maint y cymorth sydd ar gael yn Abertawe yn ddigyffelyb o gymharu â phrifysgolion eraill. O'r darlithwyr i'ch Mentor Academaidd personol, mae'n wir yn teimlo bod pawb yn eich cornel ac am i chi wneud y gorau y gallwch. Hefyd, mae'r traeth yn wych!