Radhika Patel

Radhika Patel

Gwlad:
Deyrnas Unedig
Cwrs:
BEng Peirianneg Gemegol

Rydw i mor falch y dewisais i astudio yn Abertawe. Rydw i wedi cwrdd â phobl anhygoel ac wedi gwneud ffrindiau arbennig o ar draws y byd. Mae'r bobl yma mor groesawgar, ti'n teimlo fel pe taset ti adre.

Mae'r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel, boed hynny gan fy mentor academaidd, darlithwyr neu gan wasanaethau cefnogi myfyrwyr. Os wyt ti'n gweld unrhyw beth yn anodd yn y dosbarth, fe wneith y darlithwyr siarad ti drwy popeth yn ystod eu horiau swyddfa a gwneud yn siwr bod gen ti well ddealltwriaeth.

Rydw i wedi creu cymaint o atgofion yma, o weithio drwy'r nos yn y llyfrgell i ddathlu gyda noson fawr mas; ymlacio ar y traeth rhwng darlithoedd neu fynd am dro gyda'r hwyr a gweld fy seren wib gyntaf!

Mae Peirianneg Gemegol yn gwrs trwm, ond mae'r Brifysgol yn cynnig yr holl adnoddau a chefnogaeth sydd ei angen arnaf i ddilyn y llwybr gyrfa o fy newis.