Nivitha Ann Paul

Nivitha Ann Paul

Gwlad:
India
Cwrs:
MSc Hysbyseg Iechyd

Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe?

  • Prifysgol
  • Llwybrau beicio
  • Y bobl

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
Prifysgol Abertawe oedd fy mhrif flaenoriaeth pan ddechreuais i gyflwyno ceisiadau am radd Meistr yn y Deyrnas Unedig. Fy mreuddwyd i oedd cofrestru ar gyfer MSc mewn Gwybodeg Iechyd sy'n gwrs unigryw lle mae iechyd a thechnoleg yn cyfuno i weithio'n effeithlon ac yn gynhyrchiol i'r gymdeithas. 
Roeddwn i'n hapus i dderbyn fy nghynnig gan Brifysgol Abertawe ar gyfer y cwrs hwn a oedd uwch pennau a chlustiau'r prifysgolion eraill oherwydd bod yr holl fodiwlau yn berffaith, yn union beth oedd arnaf ei angen er mwyn dysgu ac ymarfer. Gellir defnyddio fy niddordeb brwd mewn meddalwedd, codio, a rhaglennu yn effeithiol os byddaf yn cael gwneud y radd meistr hon a fydd yn fy helpu i weithio ym maes iechyd. 

Mae'n fraint gen i astudio yn un o'r prifysgolion gorau yn y Deyrnas Unedig sydd hefyd yn un o’r 3 ysgol feddygol orau yn y DU a gyhoeddwyd yn The Times and Sunday Times Good University Guide 2021. Roedd lleoliad y campysau a'r cyfleusterau a ddarperir gan y brifysgol yn rheswm pwysig arall i mi dderbyn fy nghynnig. 

Cymru yw un o'r rhannau harddaf yn y Deyrnas Unedig gyda milltiroedd o arfordir trawiadol, parciau cenedlaethol mynyddig, cymoedd, coedwigoedd a llynnoedd sydd, yn sicr, yn dda ar gyfer lles corfforol a meddyliol. Mae'n fy ngalluogi i wneud mwy o weithgareddau awyr agored, beicio, cerdded mynyddoedd, chwaraeon antur ynghyd â'm hastudiaethau. Gan fy mod yn berson sy'n dwlu ar deithio, rwy'n aros i fyw yng Nghymru ac ymuno â Phrifysgol Abertawe ym mis Medi 2021 ac archwilio'r lle, y bwyd a'r bobl fwyaf cyfeillgar sef y Cymry.   

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Mae fy nghwrs yn cynnwys technoleg a'i defnydd hawdd sydd bob amser o ddiddordeb mawr i mi. Rwy'n mwynhau'r dosbarthiadau all-lein llawer nawr gan fod y dosbarthiadau wedi ailddechrau ar ôl pandemig Covid.

Beth rydych chi’n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i chi raddio?
Bydda i'n chwilio am gyfleoedd yma yn Abertawe.

A fyddech yn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?
Byddwn, byddwn i'n argymell Prifysgol Abertawe heb os. Dyma'r dewis gorau, sef safle uchel ymysg prifysgolion, system gyfathrebu dda iawn sy'n helpu myfyrwyr rhyngwladol i fynd i'r afael â'u holl bryderon ac ymholiadau. Mae'r Brifysgol yn darparu'r cyfleusterau addysgol gorau. Mae'r staff mor dda, maen nhw'n eich helpu unrhyw bryd. Ac yn bennaf, Abertawe fydd yr opsiwn gorau i bobl sy'n chwilio am yr awyr agored ac antur. Mae digonedd o draethau a mynyddoedd hardd sy'n helpu i gadw ein meddyliau'n ffres ac yn ifanc.

Ydych chi wedi cael swydd ran-amser yn ystod eich gradd?
Roeddwn i'n gweithio fel Myfyriwr Llysgennad sy'n rhoi cyfle i chi gysylltu a chael digon o gysylltiadau rhyngwladol. Wedi codi fy lefel hyder.