Mohammed Alharbi

Mohammed Alharbi

Gwlad:
Saudi Arabia
Cwrs:
MSc Arwain a Rheoli Peirianneg

Enw: Mohammed Alharbi

Pwnc:  MSc mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Peirianneg

Cenedligrwydd/Cartref: Sawdi Arabia

Pam penderfynais di astudio MSc mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe?

Roeddwn i'n hoffi modiwlau'r cwrs a sut mae wedi'i ddylunio i sicrhau pynciau technegol a rheoli cyfredol. Er enghraifft, bydd datblygu cynaliadwy, gweithgynhyrchu clyfar, rheoli arloesedd a systemau trochi yn dueddiadau yn y dyfodol y dylai pob peiriannydd fod yn ymwybodol ohonynt er mwyn cael gyrfa well yn y dyfodol. Ar ben hynny, egwyddorion rheoli sylfaenol fel economeg, AD, Cyfrifeg a chyllid; a'r fath arall o reoli sy'n gysylltiedig â pheirianneg fel rheoli gweithrediadau, asedau a phrosiectau.

Beth oedd dy hoff beth am dy gwrs? 

Cysylltu aseiniadau'r modiwlau a phrosiect y cwrs ag achosion busnes go iawn. Roedd hynny'n bwysig iawn oherwydd ei fod yn gwella profiad y myfyrwyr o weithio, eu hyder a'u cyfathrebu. Hefyd, rydw i'n gwerthfawrogi cymorth gan fentoriaid y cwrs yn ystod y cwrs, sy'n dod â'u harbenigedd ac yn rhannu enghreifftiau go iawn.

Pam penderfynais di astudio am dy radd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe? 

Mae Prifysgol Abertawe'n un o'r 30 brifysgol orau yn y Deyrnas Unedig, ac yn hollbwysig i mi, mae hi'n un o'r 10 brifysgol orau yn y Deyrnas Unedig ar gyfer boddhad myfyrwyr.

Beth wnes di ei fwynhau fwyaf am Abertawe a Phrifysgol Abertawe?

Mae Abertawe'n ddinas ysblennydd. Rydw i'n hoffi'r golygfeydd ar lan y môr a'r traethau trawiadol fel y Mwmbwls, y Tri Chlogwyn a Rhosili. Yn bwysicach, rydw i'n teimlo bod pawb yn fy nghroesawu; maen nhw mor garedig ac ystyrlon. O ran y Brifysgol, yn gyntaf rydw i'n hoffi sut mae'r staff yn gymwynasgar ac yn gofalu'n fawr am foddhad myfyrwyr. Hefyd, rydw i'n hoffi'r gwahaniaeth rhwng y thema hanesyddol ar gampws Singleton a'r thema fodern ar Gampws y Bae. Mae'r ddau'n wahanol ac yn brydferth. Yn y Brifysgol ac y tu allan iddi, rydw i'n hoffi'r diwylliant amrywiol a chynhwysol sy'n gwneud i mi deimlo fy mod gartref.

Pa gyngor byddet ti'n ei roi i rywun sy'n meddwl astudio Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe? 

O'm profiad i, y ffactor hollbwysig yw'r amgylchedd, boed yn y Brifysgol neu'r tu allan iddi. Mae teimlo'n gyfforddus yn eich helpu i berfformio'n dda yn eich astudiaethau. Mae astudio yn Abertawe yn brofiad pleserus yn academaidd ac yn gymdeithasol.

Beth wyt ti'n cynllunio/gobeithio ei wneud ar ôl gwneud PhD?

Gan mai pontio'r bwlch rhwng y byd academaidd a byd diwydiant yn un o'r prif syniadau wrth wraidd y cwrs Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Peirianneg, bydda i'n parhau i wneud yr un peth drwy ddefnyddio ac integreiddio fy nghyflawniadau academaidd â'm profiad blaenorol wrth weithio. Fy nod yn y dyfodol yw gwella'r berthynas rhwng y byd academaidd a byd diwydiant.