Dr Murhaf Korani

Dr Murhaf Korani

Gwlad:
Saudi Arabia
Cwrs:
PhD Iechyd y Cyhoedd

Mae Dr Murhaf Korani, Athro Cynorthwyol a Dirprwy Ddeon ar gyfer Materion Ysbyty ym Mhrifysgol Umm Al-Qura yn Sawdi-Arabia yn trafod ei brofiadau o wneud ymchwil PhD ym Mhrifysgol Abertawe, a sut mae’r cymorth a’r arweiniad a gafodd wedi ei helpu i ddatblygu ei yrfa academaidd.

Roedd fy ymchwil PhD i yn ymchwilio i sut mae gordewdra yn amrywio rhwng grwpiau ethnig gwahanol. Yn y DU, mae ymchwilwyr wedi ystyried sut y gall gwahaniaethau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol achosi amrywiad o ran lefelau o ordewdra mewn plant rhwng grwpiau ethnig gwahanol, ynghyd â ffactorau eraill megis y gwahaniaethau rhwng geneteg, cymeriant maetholion a lefelau o weithgarwch.

Pan oeddwn i’n chwilio am gyfle i wneud PhD, roeddwn i’n chwilio am oruchwylydd gydag arbenigedd yn fy niddordeb ymchwil i, sef gordewdra mewn plant. Des i o hyd i'r Athro Amy Brown yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe. Roeddwn i’n ffodus i ddewis Abertawe. Roedd yn ddinas dawel a diogel gydag arfordir hyfryd, ac roeddwn i ar Gampws Singleton. Doeddwn i ddim yn edifarhau dim byd!

Mae’r Brifysgol yn dafliad carreg o’r traeth, ac mae’r ddinas wedi’i hamgylchynu gan fryniau, felly gallwch ddianc i fyd natur yn gyflym iawn a mwynhau naws hardd. Mae pobl Abertawe mor gyfeillgar o’u cymharu â phobl dinasoedd eraill rwyf wedi ymweld â nhw yn y DU.

Roedd gan y Brifysgol bopeth yr oedd ei angen arnaf i wneud fy ngwaith ymchwil – adeilad gwych a staff hyfryd. Roeddwn i wrth fy modd o’r diwrnod cyntaf oll.

Rydych chi’n cael y cyfle i gwrdd â llawer o ymchwilwyr o bob rhan o’r Brifysgol, sy’n helpu wrth feithrin rhwydwaith.

Roedd staff Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd a’m goruchwylydd mor gefnogol ac anogol. Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd gorffen mewn pryd oherwydd problem gyda chasglu data, felly gofynnais i i’r Rheolwr Ymchwil Ôl-raddedig, Maria Davis, beth gallwn i ei wneud, a chefais ei help hi i ddatblygu dadl am estyniad o 1 mis, a chefais gefnogaeth ganddi i drafod hyn gyda fy ngoruchwylydd hefyd.

Bob blwyddyn yn fy Ngholeg, cynhaliwyd Cynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig lle gallai ymchwilwyr ôl-raddedig gyflwyno ar bynciau gwahanol ynghyd ag athrawon a darlithwyr o fri, a oedd wedi rhoi profiad hollbwysig i mi o gyflwyno ac esbonio fy ngwaith. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cymryd rhan os cewch chi’r cyfle!

Des i i’r DU i gael profiad gwahanol ac i ddysgu, a bellach rwyf wedi dychwelyd i Sawdi-Arabia gan ddod â’r sgiliau hynny gyda fi. Rwy’n gweithio fel Athro Cynorthwyol a Dirprwy Ddeon Materion Ysbytai yng Nghyfadran y Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Umm Al-Qura. Rwyf yn parhau â’m hymchwil i ordewdra, gan ddatblygu gwaith fy PhD, ynghyd â diddordeb cysylltiedig mewn diabetes, gorbwysedd ac ymddygiad cymdeithasol.

Fy nghyngor i i ymchwilwyr ôl-raddedig yw ymdrechwch i gael gwybodaeth, darllenwch gymaint â phosib a pheidiwch â bod yn swil! Mae pawb yn dysgu, felly siaradwch ag ymchwilwyr ôl-raddedig eraill a goruchwylwyr os ydych chi’n cael anawsterau.

Yn y dyfodol, byddwn i wrth fy modd yn dychwelyd i Brifysgol Abertawe i wneud swydd ôl-ddoethurol. A bob blwyddyn, rwy’n trio fy ngorau i ddod i Abertawe ar fy ngwyliau hefyd!