Dona Paul

Dona Paul

Gwlad:
India
Cwrs:
MSc Bioleg Yr Amgylchedd: Cadwraeth A Rheoli Adnoddau

Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe?

  • Rwy'n dwlu ar draethau Abertawe! Nid dim ond y traethau, mae llawer o fannau yn Abertawe i bobl fel fi sy'n hoff o fyd natur ymweld â nhw, eistedd ac ymlacio.
  • Mae Abertawe'n dawel iawn ac yn rhydd o lygryddion. Yn wahanol i'r dinasoedd mawr, does dim rhaid i chi boeni am eich gofod personol yma. Mae'r bobl rydw i wedi cwrdd â nhw hyd yn hyn yn garedig ac yn sylwgar iawn. Mae'n lle gwych gyda phobl wych i greu atgofion gyda nhw! Mae'r cyfraddau troseddu yn anhygoel o isel!
  • Mae byw yn Abertawe yn rhad. O'i chymharu â dinasoedd mawr eraill yn y DU, gallwch ddod o hyd i swydd ran-amser yn hawdd lle rydych chi'n talu'ch holl dreuliau byw misol heb ffwdan. Gan fy mod i'n fyfyriwr rhyngwladol sy'n hunan-ariannu, roedd hyn yn bwysig i mi.

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?
Roedd fy nghwrs yn y 3ydd safle yn y DU am foddhad cyffredinol myfyrwyr. Yn ein maes llafur ni roedd cyfleoedd dwys i bob biolegydd maes gydag amrywiaeth o astudiaethau maes o bryd i'w gilydd. Mae'r holl fodiwlau yn canolbwyntio ar y swydd. Ac mae'r treuliau byw yn llawer rhatach na rhannau eraill o'r DU.

Beth yw eich hoff beth am eich cwrs?
Y profiad yn y maes. Rydym ni eisoes wedi cael 2 astudiaeth maes undydd ac rydym yn aros am un arall sy'n para tri diwrnod. Yn hytrach na chael gwybodaeth o werslyfrau, mae ein cwrs yn ymdrin â phrofiadau gwaith go iawn. Rydym wedi gwahodd gwesteion i'n darlithoedd sy'n gweithio yn ein maes ac rydym wedi meithrin cysylltiadau â nhw hefyd!

Beth rydych chi’n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i chi raddio?
Rwy'n bwriadu gwneud gwaith ymchwil i brosiectau cadwraeth mewn meysydd pwnc fel coedwigaeth ac Agrogoedwigaeth. Gwirfoddoli mewn cynifer o brosiectau cadwraeth sy'n ymdrin â newid hinsawdd. Fy nod byrdymor yw gweithio mewn cwmnïau ymgynghori ecolegol a'm nod hirdymor yw bod yn Ecolegydd/Bio-wyddonydd

A fyddech yn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill?
Byddwn i'n argymell Prifysgol Abertawe i bob myfyriwr, yn enwedig y myfyrwyr rhyngwladol sy'n bwriadu ymuno, yn bennaf oherwydd ansawdd yr addysg a ddarperir yma. Mae'r cwrs yn cynnig profiadau sy'n canolbwyntio ar swydd yn hytrach na gwybodaeth o werslyfrau. Mae astudio yma yn dda iawn i'r gyllideb yn enwedig i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n hunanariannu. Mae cymaint i'w archwilio yng Nghymru. Mae'r brifysgol yn cynnal llawer o deithiau byr i ymweld â llawer o leoedd o'r fath.

Ydych chi wedi byw mewn preswylfa yn ystod eich astudiaethau?
Ar hyn o bryd rwy'n byw ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan. Dewisais i fyw yma oherwydd dyma'r breswylfa rataf sy’n cael ei chynnig gan y brifysgol. Mae'n cymryd 45 munud i gerdded yno o gampws Singleton. Er ein bod ychydig yn bell o'r campws ac o ganol y ddinas, rydym ni wedi cael tocyn bws blynyddol am ddim ar gyfer bysus First Cymru. Mae'r ardal yn heddychlon iawn ac mae llawer o le. Mae gennym ein llyfrgell glowyr ein hunain sydd â mynediad i holl lyfrgelloedd y brifysgol lle gallwn ni ofyn am lyfrau, defnyddio cyfrifiaduron sydd wedi'u cysylltu ag ether-rwyd y brifysgol a gwahanol wasanaethau eraill y llyfrgell. Mae'r gwasanaethau preswyl yn brydlon ac yn weithgar iawn.

Ydych chi wedi cael swydd ran-amser yn ystod eich gradd?
Rwy'n gweithio fel myfyriwr llysgennad yn y brifysgol. Rwyf wedi gallu herio fy sgiliau cymdeithasol wrth i mi gael profiad o lawer o ddigwyddiadau cyhoeddus. Gwnes i gwrdd â llawer o bobl newydd drwy'r cynllun llysgennad. Ochr yn ochr â hynny, rwy'n gweithio'n rhan-amser mewn siop tecawê yng Nghilâ fel cynorthwy-ydd cegin a gweinyddes.