Catrin Jones

Catrin Jones

Gwlad:
Cymru
Cwrs:
TAR Uwchradd gyda SAC: Mathemateg

Rwyf wedi mwynhau pob eiliad o’r cwrs TAR Mathemateg eleni, hyd yn oed gyda’r newidiadau a chyfyngiadau a achoswyd gan COVID-19.

Mae hyn o ganlyniad i’r cynllunio manwl sydd wedi mynd at greu’r cwrs gan Brifysgol Abertawe. Rwyf wedi derbyn swydd mewn ysgol uwchradd gyfrwng Cymraeg yn Sir Powys ac edrychaf ymlaen at gael dechrau addysgu yn yr ysgol ym mis Medi.

Er i’r pandemig greu heriau newydd yn ystod y flwyddyn, ni chafodd hyn effaith ar strwythur a diben y cwrs. Mae Prifysgol Abertawe wedi sicrhau bod y cwrs TAR yn cynnwys yr holl brofiadau sydd eu hangen ar ddarpar athrawon i ddatblygu i fod yn athrawon llwyddiannus.

Yn ogystal ag ennill bwrsariaeth STEM Llywodraeth Cymru gan i mi raddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Mathemateg, rwyf hefyd wedi derbyn cymorth ariannol o dan gynllun cymhelliant Iaith Athrawon Yfory gan i mi gwblhau’r cwrs TAR yn llwyddiannus trwy gyfrwng y Gymraeg.

Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried gyrfa addysgu i fynd amdani – mae’n yrfa mor foddhaol a gwerth chweil.