Mae IDCORE yn Ganolfan Hyfforddi Doethurol sy'n seiliedig ar ddiwydiant, sy'n hyfforddi 50 o fyfyrwyr EngD (Doethuriaeth Peirianneg) mewn Ynni Adnewyddadwy Alltraeth (ORE), gyda 5 o fyfyrwyr yn cael eu derbyn rhwng 2024 a 2028. Mae IDCORE wedi bod yn gwasanaethu fel canolfan hyfforddi ers 2012 ac, hyd yn hyn, mae eisoes wedi recriwtio a hyfforddi dros 100 o beirianwyr ynni adnewyddadwy alltraeth. Roeddem wrth ein boddau’n ennill rhagor o gyllid i barhau â'n hanes profedig: i hyfforddi carfan arall o beirianwyr medrus iawn i helpu i dyfu'r diwydiant hanfodol hwn.

Ers 2024, mae IDCORE wedi bod yn bartneriaeth gydweithredol rhwng Prifysgol Caeredin, Prifysgol Caerwysg, Prifysgol Strathclyde, Prifysgol Abertawe a Chymdeithas Gwyddor Môr yr Alban (SAMS). Mae pob un o'r 5 sefydliad yn dwyn ynghyd arbenigedd academaidd adnabyddus mewn mewn Ynni Adnewyddadwy Alltraeth (ORE) a chyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf.

Mae'r cwrs EngD hwn yn rhaglen amser llawn pedair blynedd yng Nghaeredin ar gyfer Tymor 1 a 2 o'r flwyddyn gyntaf (Medi i Fehefin), ac ar ôl hynny mae myfyrwyr ar leoliad gwaith gyda'u cwmni noddi, ledled y DU, am 3 blynedd. Mae prosiectau ymchwil yn cael eu cynnal yn llwyr gan y cwmni sy'n noddi ac yn adlewyrchu ffocysau ymchwil y sector ORE, mewn amser real. Mae myfyrwyr yn cael eu paru â'u prosiect ymchwil ym mis Chwefror yn y flwyddyn gyntaf, ac mae prosiectau'n cychwyn ym mis Mehefin canlynol. Mae dull IDCORE sy'n seiliedig ar y diwydiant yn rhoi profiad diwydiannol go iawn i fyfyrwyr a chyfle i gyfrannu'n wirioneddol at weithgareddau eu cwmni.

Dylai darpar ymgeiswyr allu dangos: brwdfrydedd; dyfeisgarwch; ymagwedd aeddfed at ddysgu; creadigrwydd; dealltwriaeth gadarn o un neu fwy o ganghennau gwyddoniaeth neu beirianneg; a meddu ar naill ai radd anrhydedd dosbarth cyntaf, MSc nodedig, neu brofiad diwydiannol perthnasol sylweddol. Mae ysgoloriaeth lawn (lwfans a ffïoedd dysgu) ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus. Mae rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio ar gael ar wefan IDCORE (Saesneg yn unig).