Secondiad CYTREC – Hanes gan Ymchwilydd PhD

Mae'r blog hwn yn rhoi trosolwg o'm profiad (ymchwilydd PhD) yn ystod secondiad am fis yn y Ganolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau (CYTREC) ym Mhrifysgol Abertawe.

Cefnogwyd y cynllun secondiad hwn gan Gyfarwyddiaeth Weithredol Gwrthderfysgaeth y Cenhedloedd Unedig (UN CTED) a Tech Against Terrorism (TAT). Nod y secondiad oedd creu lle i ffurfio tîm aml-randdeiliad a oedd â'r dasg o ystyried y ffyrdd y mae grwpiau terfysgol yn manteisio ar y rhyngrwyd a datgelu sut i ymateb mewn ffordd sy'n parchu hawliau dynol. Daeth y data a ddefnyddiwyd i gyflawni'r nod hwn gan Blatfform Dadansoddeg Cynnwys Terfysgol (TCAP) wedi'i ariannu gan Lywodraeth Canada.

A head shot of Connor

Wrth i mi ddechrau'r secondiad hwn, roeddwn yn dod at ddiwedd blwyddyn gyntaf PhD mewn Cyfrifiadureg a Throseddeg ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd y prosiect yn berthnasol i nifer o ffactorau wrth wraidd fy astudiaethau PhD. I grynhoi, mae fy PhD yn archwilio sut mae sbectrwm o grwpiau'r dde eithafol yn cynnal presenoldeb yn y cyfryngau cymdeithasol ac yn osgoi ymdrechion i gymedroli cynnwys. Yn bennaf mae fy nghefndir ym maes y Gwyddorau Cymdeithasol, gyda BSc mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ac MA mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth. Ymhellach i hyn, rwyf wedi cael profiad ym maes Cyfrifiadureg drwy gymhwyster MSc.

Roedd uno'r ddwy ddisgyblaeth hyn, er nad yw'n hanfodol, yn fy rhoi mewn sefyllfa dda yn ystod y mis.

Gellir deall strwythur y cynllun lleoliad hwn mewn tri cham gwahanol: (1) archwilio a chyflwyno, (2) drafftio, a (3) crynhoi a rhoi adborth.

Gwnaeth y cam cyntaf, sef archwilio a chyflwyno, gynnig profiad unigryw i bob un o'r rhai hynny ar secondiad a gymerodd ran yn y cynllun. Er i bob un ohonynt ddefnyddio’r un set ddata TCAP trosfwaol, canolbwyntiodd unigolion a thimau ar agweddau penodol ar y data i greu nifer o brosiectau gwahanol. Penderfynwyd hyn dros y dyddiau cyntaf pan oedd pob un o'r rhai hynny ar secondiad yn rhydd i archwilio'r data a chynllunio llwybrau ymchwil posibl. Yn ystod y cyfnod hwn, archwiliais y ffeiliau Excel niferus lle nodais y cwmpas posibl ar gyfer ymchwil i'r rôl a'r strategaethau sy'n gysylltiedig â hashnodau. Yn dilyn y cam 'archwilio' hwn, cyflwynodd pob secondai lwybrau ymchwil posibl gwerth eu hystyried.

Roedd y cam dilynol yn cynnwys dewis a chyflawni prosiectau. Yn ystod y cyfnod hwn o'r prosiect, cafodd pob un o'r prosiectau posibl eu trafod a'u mireinio, eu cyfuno a'u dyrannu ar draws y tîm i greu saith prosiect gwahanol. Mae pob un o'r prosiectau yn gwbl wahanol i'r prosiect nesaf; mae'r pynciau a archwiliwyd gan y prosiectau hyn fel a ganlyn: Is-adran Trident, AWD a grwpiau cysylltiedig, safleoedd rhannu ffeiliau (y prosiect roeddwn i'n rhan ohono), hil-laddiad Uyghur a sianeli newyddion y byd, hashnodau, enwau defnyddwyr, a thechnoleg amgen (alt-tech). Ar ôl i brosiectau gael eu creu a’u dyrannu, dechreuodd grwpiau weithio'n fwy annibynnol. Yr agwedd unigryw ar y cam hwn oedd bod pob aelod yn gweithio yn yr un lle. O ganlyniad, er gwaethaf gweithio ar allbynnau gwahanol, defnyddiodd y rhai hynny a oedd ar secondiad gryfderau ei gilydd mewn ffordd gydweithredol unigryw drwy gydol y cynllun a arweiniodd at ymchwil fwy cadarn o ansawdd uwch. Gwnaeth defnyddio cryfderau unigol y rhai hynny a oedd ar secondiad, gan gynnwys gwybodaeth am godio, arbenigedd Excel a dealltwriaeth strategol o'r maes sicrhau llif cyson o ran rhannu syniadau rhwng prosiectau.

Ar ôl i'r prosiectau hyn gael y cyfle i ddatblygu, roedd y trydydd cam yn cynnwys gwaith crynhoi a rhoi adborth. Mae'n werth nodi bod atebolrwydd ac adborth yn bresennol drwy gydol y mis. Roedd hyn yn bresennol ar ffurf cyfarfodydd wythnosol a oedd yn cynnwys ymgysylltiad rhwng rhanddeiliaid. Yn y pen draw, roedd y cam hwn yn ymwneud â rhoi adborth i TAT a rhanddeiliaid rhyngwladol eraill y byddai allbynnau'r cynllun o fudd iddynt. Roedd hyn yn cynnwys llunio cyhoeddiad drafft i'w gyhoeddi yn ddiweddarach gan rwydwaith RESOLVE. Byddai ei gynnwys yn cael ei ddefnyddio i greu cyflwyniad byr i roi crynodeb craff o bob prosiect i randdeiliaid ac argymhellion y gellir eu gweithredu yn seiliedig ar y canfyddiadau.

Rwyf wedi elwa'n weithredol o'r profiad hwn mewn sawl ffordd, ond tri budd allweddol yw'r pwysicaf. Yn gyntaf, fel ymchwilydd ar ddechrau fy ngyrfa, roedd y secondiad i CYTREC yn cynnig rhywfaint o gysylltiad â'r maes a'r bobl a'r sefydliadau sy'n rhan ohono. Yn ystod y mis, cefais fy rhoi mewn sefyllfa i rwydweithio ag academyddion ac ymarferwyr sefydledig a fyddai'n cynnig dealltwriaeth a chyngor i radd nad oeddwn wedi ei phrofi o'r blaen. Ni allaf bwysleisio’n ddigon bwysigrwydd y cyfle hwn o ran sut mae eisoes wedi cynnig cyfleoedd newydd i mi yn y misoedd ar ôl iddo ddod i ben. Enghraifft o hyn yw'r cyfle i gymhwyso peth o'r ymchwil a wnaed yn y prosiect hwn ar gyfer erthygl mewn cyfnodolyn yn ystod y misoedd nesaf.

Yn ail, cael y cyfle i gyfrannu at waith ochr yn ochr â rhanddeiliad. Arweiniodd y berthynas barhaus â nifer o randdeiliaid drwy gydol cylch bywyd y prosiect ddeinameg unigryw yn y gweithle nad oeddwn wedi ei phrofi o'r blaen yn y byd academaidd. Cafodd yr angen i gyfleu syniadau cryno, gweithredu ar adborth mewn modd amserol ac ystyried y gynulleidfa darged y gwaith, sef ymarferwyr, effaith barhaus ar sut y crëwyd y prosiect.

Yn olaf, roedd natur ryngddisgyblaethol y secondiad yn fy ngalluogi i ddefnyddio fy sgiliau a meithrin rhai newydd. Enghraifft o sgil wedi'i meithrin yw cyflwyno. Rwyf wedi cyflwyno mewn nifer o gyd-destunau cyn y lleoliad hwn. Fodd bynnag, roedd cyflwyno o flaen nifer o randdeiliaid wedi fy ngorfodi i fireinio fy sgiliau cyflwyno wedi'u meithrin yn flaenorol drwy eu cymhwyso i'r cyd-destun unigryw hwn.

At hynny, coladwyd nifer o'r prosiectau i greu panel yng nghynhadledd AVERT Prifysgol Deakin a fydd yn cryfhau'r sgiliau hyn ymhellach yn ogystal â darparu profiad a chysylltiad amhrisiadwy. Yn yr un modd, cyn y prosiect hwn roeddwn wedi cael ychydig iawn o gysylltiad â gwaith dadansoddi data meintiol. Roedd y secondiad yn gyfle i mi feithrin y sgiliau hyn dan arweiniad arbenigwyr. Ac o ganlyniad, roeddwn yn gallu cyfrannu at ddogfen a oedd yn rhoi argymhellion i ddatblygiad TAT o'r TCAP (sef y Platfform Dadansoddeg Cynnwys Terfysgol). Roedd y tri phwynt hyn ochr yn ochr yn cynnig profiad amhrisiadwy, profiad y byddwn yn ei argymell yn fawr i ymchwilwyr eraill ar ddechrau gyrfa yn ogystal ag ymchwilwyr sefydledig a phartneriaid ym myd diwydiant fel ei gilydd.