Mae'r Pwyllgor Taliadau yn gyfrifol am oruchwylio a chraffu ar strategaeth wobrwyo'r Brifysgol, gan gynnwys adolygu a phenderfynu ar bob agwedd ar dâl, buddion ac amodau cyflogaeth yr Is-Ganghellor, a thâl a buddion ariannol eraill aelodau eraill y Tîm Arweinyddiaeth Uwch, gan ystyried fforddiadwyedd, gwybodaeth gymharol am dâl, buddion ac amodau cyflogaeth yn sector y Brifysgol ac mewn mannau eraill yn ôl yr angen, a datblygu strategaeth a pholisi gwobrwyo cyffredinol i gwmpasu tâl, buddion ac amodau cyflogaeth uwch weithwyr y Brifysgol ar Radd 11 a'r rhai sy'n adrodd yn uniongyrchol i aelodau'r Tîm Arweinyddiaeth Uwch.

Mae'r Pwyllgor Taliadau dan gadeiryddiaeth aelod lleyg o'r Cyngor ac mae'n cynnwys aelodau lleyg annibynnol o'r Cyngor sydd â gwybodaeth ac arbenigedd perthnasol. Penodir holl aelodau'r Pwyllgor a'i Gadeirydd gan y Cyngor ar argymhelliad y Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau. Mae pob aelod yn annibynnol ar y Brifysgol.

Mae'r Pwyllgor yn cyd-fynd â Chod Tâl Staff Uwch Addysg Uwch CUC (Tachwedd 2021) ac yn cyhoeddi adroddiad blynyddol, sydd ar gael yma: Datganiad Blynyddol ar Gydnabyddiaeth 2025.

Yn ystod sesiwn academaidd 2025/26, bydd y Pwyllgor Taliadau yn cyfarfod ar:

  • Dydd Gwener 26 Medi 2025; 
  • Dydd Llun 10 Tachwedd 2025; 
  • Dydd Iau 5 Mawrth 2026; 
  • Dydd Iau 25 Mehefin 2026.