Archwilio sut mae Prifysgol Abertawe'n cael ei llywodraethu.

                                                                                                                                                                                                                                                            

Mae Prifysgol Abertawe’n elusen gofrestredig (Rhif 1138342) ac yn gorfforaeth annibynnol a sefydlwyd gan Siarter Frenhinol ym 1920, felly’n atebol i'r Comisiwn Elusennau ac mae'n rhaid cydymffurfio â'i arweiniad. Mae'r Brifysgol yn gweithredu’n unol â fframwaith cyfansoddiadol a sefydlwyd gan ei Siarter a Statudau, sy'n cael eu cefnogi gan Ordinhad manwl.

Y CYNGOR

Y Cyngor yw'r corff llywodraethu ac felly prif awdurdod y Brifysgol, sy'n golygu bod ganddo atebolrwydd terfynol am ymddygiad a gweithgarwch y Brifysgol a'i chynrychiolwyr. Mae manylion llawn yr aelodaeth bresennol ar gael ar dudalen Aelodaeth y Cyngor. Mae'n gyfrifol am bennu cyfeiriad strategol y Brifysgol ac am ei chyllid, ei heiddo, ei buddsoddiadau a’i busnes cyffredinol. Mae hefyd yn gyfrifol am sicrhau ansawdd a safonau darpariaeth academaidd y Brifysgol ac am gyflawni ei dyletswyddau yn unol â Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru. Prif bwyllgorau'r Cyngor yw'r Pwyllgor Archwilio, Sicrwydd a Risg, y Pwyllgor Cyllid a Strategaeth, y Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau, a'r Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol. Mae'r Cyngor hefyd wedi sefydlu Fforwm Ymgysylltu ar y cyd y Cyngor i alluogi aelodau lleyg o’r Cyngor i ymgysylltu ag Undebau Llafur Campws y Brifysgol ar holl agweddau cylch gwaith a chyfrifoldebau'r Cyngor.

Dylai unigolion sydd â diddordeb mewn ymuno â'r Cyngor fel Aelod Annibynnol, neu mewn cael eu cyd-ethol i un o'r is-bwyllgorau, gysylltu ag Ysgrifennydd y Brifysgol, Ms Louise Woollard, sy'n Ysgrifennydd i'r Cyngor, yn (L.A.Woollard@abertawe.ac.uk). Manylir ar rôl Ysgrifennydd y Cyngor yn Ordinhad 21.

Y SENEDD

Y Senedd yw uwch-gorff academaidd y Brifysgol, sy'n gyfrifol am bolisïau, safonau a strategaeth academaidd y Brifysgol. Cafodd ei sefydlu gan Siarter y Brifysgol sy'n nodi fel a ganlyn: "yn ddarostyngedig i reolaeth a chymeradwyaeth y Cyngor, bydd y [Senedd] yn rheoleiddio ac yn goruchwylio addysg a disgyblaeth y Brifysgol." Manylir ar bwerau, dyletswyddau ac aelodaeth y Senedd yn Ordinhad 4. Cadeirydd y Senedd yw'r Is-ganghellor ac mae ei haelodaeth yn cynnwys aelodau yn rhinwedd eu swydd ac aelodau etholedig, sy'n cyd-fynd â’r strwythur Cyfadrannau, ac yn adlewyrchu rôl y Senedd fel llais academaidd y brifysgol.

Mae'r Senedd yn cael ei chefnogi gan nifer o is-bwyllgorau sy'n goruchwylio meysydd penodol o lywodraethiant academaidd. Mae'r rhain yn cynnwys Pwyllgor Addysg, Pwyllgor Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr, Pwyllgor Uniondeb, Moeseg a Llywodraethu Ymchwil, a Phwyllgor Ymchwil, Arloesi ac Effaith y Brifysgol.

Gellir anfon ymholiadau neu geisiadau am ragor o wybodaeth at Ysgrifennydd y Senedd (s.t.gavey@abertawe.ac.uk).

LLYS Y BRIFYSGOL

Mae'r llys, sy'n cael ei gadeirio gan y Canghellor, yn gorff statudol mawr a sefydlwyd o dan Siarter y Brifysgol. Mae'n darparu fforwm cyhoeddus pwysig i'r Brifysgol ymgysylltu â'i rhanddeiliaid allanol. Mae'r Llys yn cwrdd yn flynyddol i dderbyn adroddiadau allweddol ar gyflawniadau, perfformiad, cyllid a gweithgareddau ehangach y brifysgol, ac yn cynnig cyngor a sylwebaeth ar faterion sy'n effeithio ar waith y Brifysgol. Er bod ei rôl yn ymgynghorol, mae'r Llys yn chwarae rhan werthfawr wrth gryfhau atebolrwydd, natur agored ac ymgysylltu ar draws cymuned y Brifysgol.

Manylir ar gyfansoddiad a phwerau'r Llys yn yr Ordinhad, o dan Ordinhad 6.

CANGHELLOR Y BRIFYSGOL

Mae'r Canghellor, Yr Athro Fonesig Jean Thomas FRS FMedSci FLSW, yn llywyddu yng nghyfarfodydd y Llys, fel y’i nodir yn Ordinhad 6, ac yn cyflwyno graddau a dyfarniadau eraill mewn seremonïau graddio.

Dyfyniad gan y Canghellor: "Mae'n anrhydedd mawr gennyf gael fy ail-benodi'n Ganghellor o 1 Ionawr 2022. Rwy'n gwerthfawrogi fy nghysylltiad â’r Brifysgol yn fawr, a chyda balchder mawr yn ddiweddar bûm yn bresennol yn seremoni wobrwyo Gwobrau Pen-blwydd y Frenhines pan ddyfarnwyd y Wobr i'r Brifysgol am 'waith trawsnewidiol wrth ganfod cymwysiadau newydd ar draws y byd ar gyfer technoleg solar.' Gwnaeth newyddion da y dyfarniad hwn nodi dechrau ardderchog i 2022, ac edrychaf ymlaen at ddathlu mwy o lwyddiannau ar draws cylch gwaith y Brifysgol yn y dyfodol. Mae ganddi gryfderau mawr mewn llawer iawn o feysydd". 

Mae gwybodaeth am Wobr y Canghellor ar gael yma.

 GWYBODAETH GORFFORAETHOL