Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu
Mae David wedi treulio ei yrfa yn gweithio mewn addysg uwch. Mae wedi bod yn Ddirprwy Bennaeth, yn Brif Swyddog Gweithredu ac yn Ysgrifennydd y Brifysgol yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain; yn Is-lywydd, yn Weinyddwr ac yn Gofrestrydd y Brifysgol ym Mhrifysgol Surrey; yn Ddirprwy Is-ganghellor ar gyfer Partneriaethau Byd-eang a Recriwtio ym Mhrifysgol Leeds Beckett; ac yn Ddirprwy Is-ganghellor Strategaeth ym Mhrifysgol Kingston Llundain.
Yn ei yrfa gynnar, gweithiodd David ym Mhrifysgol Reading, lle'r oedd yn Is-ddeon ac yn Uwch-diwtor yng Nghyfadran y Gwyddorau Economaidd a Chymdeithasol ac yng Nghyfadran y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Mae hefyd wedi gweithio ym Mhrifysgol Warwig ac yn Japan.
Fel ymgynghorydd, mae David wedi cefnogi sawl prifysgol gyda materion llywodraethiant corfforaethol, llywodraethiant academaidd, globaleiddio a recriwtio myfyrwyr. Mae'n awdur nifer o adroddiadau ar lywio prosesau trawsnewid strategol cymhleth, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud ag agweddau cyfreithiol a llywodraethiant ar ailstrwythuro ac uno.
Mae David yn Ymddiriedolwr ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw, ac yn Enwebai Cyllidwyr ar Fwrdd Jisc. Mae ei benodiadau lefel bwrdd eraill yn cynnwys 8 mlynedd fel Ymddiriedolwr UCAS, a sawl rôl lywodraethu yn y sectorau addysg uwchradd ac addysg bellach ac mewn elusennau sy'n ymwneud ag addysg, gan gynnwys cyfnod fel Is-gadeirydd Corfforaeth yng Ngholeg Addysg Bellach ac Uwch West Thames, Llundain.
Mae David yn Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau ac yn Gymrawd Cysylltiol o’r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol. Mae'n meddu ar raddau Baglor a Meistr o Brifysgol Caerhirfryn, Doethuriaeth o Brifysgol Rhydychen ac MBA gan y Sefydliad Addysg, Coleg Prifysgol Llundain.