Yn ystod eich cwrs, bydd disgwyl i chi ysgrifennu aseiniadau ac, yn eich blwyddyn olaf, efallai gofynnir i chi ysgrifennu traethawd estynedig. Gall y bar offer yn Read&Write eich helpu ar bob cam o'r broses. Yn gyntaf, mae'n cynnig offer i'ch helpu i ddeall y dasg a nodi pwyntiau allweddol i'w trafod, a fydd yn eich helpu i gynllunio eich drafft cyntaf. Wedyn ceir offer i wirio a phrawf-ddarllen eich gwaith. Bydd y nodwedd darllen yn uchel yn eich galluogi i wrando ar yr hyn rydych chi wedi'i ysgrifennu gan roi cyfle i chi glywed a chywiro camgymeriadau.

Gweld y nodwedd nesaf

Cymorth Ychwanegol