Trosolwg
Rwy'n Swyddog Llyfrgell ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hyn yn cynnwys cysylltu â staff academaidd ynglŷn â stoc a gwasanaethau'r llyfrgell, cynhyrchu canllawiau a thudalennau gwe, addysgu myfyrwyr, darparu apwyntiadau un i un a staffio ein gwasanaeth sgwrsio ar-lein. Mae'n cynnwys delio ag ystod ddiddorol o ymholiadau.