An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Non Vaughan Williams

Dr Non Williams

Uwch-ddarlithydd, Media

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 604815

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Non Vaughan Williams yn uwch-ddarlithydd yn yr Adran Cyfryngau a Chyfathrebu ac yn Gyfarwyddwr y graddau Blwyddyn mewn Diwydiant. Hi hefyd yw Swyddog Cyflogadwyedd yr adran ac Arweinydd Cyflogadwyedd yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu.

Bu Non yn gweithio fel ymchwilydd a chynhyrchydd llawrydd ac yna i’r BBC cyn cychwyn ar yrfa academaidd. Mae’n parhau i gynhyrchu a chyflwyno rhaglenni yn achlysurol er mwyn cadw cysylltiad gyda’r diwydiant a hwyluso profiadau i fyfyrwyr.

Mae’n un o’r pedwar aelod o staff o fewn yr adran sy’n medru’r Gymraeg ac yn darlithio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Meysydd Arbenigedd

  • Yr iaith Gymraeg a’r Cyfryngau
  • Y genre dogfen
  • Rhywedd a darlledu
  • Darlledu cyhoeddus
  • Sgiliau ymarferol: radio, fideo, technoleg symudol a rhwydweithio cymdeithasol
  • Cynhyrchu

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae gan Non ddiddordeb mawr mewn ymgorffori agweddau o gyflogadwyedd o fewn y cwricwlwm ar ffurf asesiadau megis cyflwyniadau pitch neu trwy archwilio cyfleoedd profiad gwaith i fyfyrwyr. Aeth ati i sefydlu Panel Diwydiant i gynghori darpariaeth yr Adran Cyfryngau a Chyfathrebu sydd wedi arwain at ganlyniadau cyflogadwyedd gwych. Mae gan Non ddiddordeb mewn meithrin creadigrwydd myfyrwyr ac annog eu sgiliau menter, dwy agwedd bwysig o fewn sector y diwydiannau creadigol.

Fel Cymrawd Hŷn yr Academi Addysg Uwch, mae’n mentora cydweithwyr sy’n ymgeisio am gydnabyddiaeth AAU, ac yn asesu ceisiadau AAU o fewn y brifysgol.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau