A photo of Singleton Campus including Singleton park and a view of the sea

Dr Maria Pretzler

Athro Cyswllt, Classics

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602357

Cyfeiriad ebost

210
Ail lawr
James Callaghan
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwy’n hanesydd Groegaidd, ac yn dysgu modiwlau sy'n gysylltiedig â hanes Gwlad Groeg a dwyrain Môr y Canoldir o'r Oes Haearn gynnar i'r cyfnod Rhufeinig. Yn ogystal, mae gen i ddiddordeb mawr mewn mytholeg Roegaidd a daearyddiaeth yr henfyd.

Prif ddiddordebau ymchwil:

Dinas-wladwriaethau bach

Cymunedau bach, yn enwedig dinas-wladwriaethau Gwlad Groeg, sy’n ganolog i lawer o'm gwaith. Mae hyn yn golygu mynd y tu hwnt i'r ychydig ddinasoedd hynafol enwog (Athen, Sparta), a cheisio deall sut yr oedd y rhan fwyaf o Roegiaid yn byw, yn y cannoedd o ddinasoedd llai a fodolai yn y byd Groegaidd. Arweiniodd hyn at weithio ar Aeneas Tacticus, awdur milwrol o’r 4 ganrif Cyn yr Oes Gyffredin – gweler fy ngwefan www.aeneastacticus.net

Y Peloponnesus

Mae llawer o'm gwaith yn canolbwyntio ar y rhan ddeheuol hon o dir mawr Gwlad Groeg, tiriogaeth fynyddig iawn gyda llawer o ddinasoedd bach oedd â rhan bwysig ym maes polisi tramor Sparta. Ar hyn o bryd rwy’n ysgrifennu ar gynghrair Sparta, cynghrair Peloponnesus, gan ganolbwyntio ar rôl yr aelod-wladwriaethau.

Daearyddiaeth yr Henfyd ac Ysgrifennu Teithio

Roedd fy nhraethawd doethuriaeth ar lyfr Arcadia (VIII) Description of Greece Pausanias. Ers hynny rydw i wedi gweithio ar wahanol agweddau ar ddaearyddiaeth hynafol ac ysgrifennu teithio (ffeithiol a ffuglennol).

Mythau a Mythograffeg

Mae fy niddordeb yn y maes hwn yn canolbwyntio'n benodol ar fythau yn eu cyd-destun cymunedol: pam oedd y Groegiaid yn adrodd y straeon hyn, pa ddiben oedd iddynt o fewn y gymuned ac yn y cyfathrebu rhwng gwladwriaethau?

Yr Ail Soffydd

Bu’r gwaith ar Pausanias yn gyfrwng i’m harwain i wneud ymchwil bellach ar ddiwylliant a llenyddiaeth Roeg yn ystod cyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig (yr Ail Soffydd). Yn ogystal â Pausanias, rydw i wedi bod yn gweithio ar Lucian, Aelius Aristeides, Lucian a Polyaenus.

Meysydd Arbenigedd

  • Dinas Wladwriaethau Gwlad Groeg
  • Peloponnesus
  • Pausanias
  • Ysgrifennu Taith Hynafol
  • Daearyddiaeth yr Henfyd
  • Yr Ail Soffydd
  • Hunaniaeth Polis
  • Traddodiadau Llafar Lleol
  • Tirluniau Coffa