Trosolwg
Mae Mark Humphries yn arbenigwr ar hanes yr Oesoedd Cynnar hwyr, y cyfnod sy’n ymestyn o’r drydedd ganrif i’r seithfed a oedd yn dyst i drawsnewidiadau dramatig yn y byd hynafol. Yn eu plith roedd cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig yn y Gorllewin a sefydlu gwladwriaethau a chymdeithasau newydd, diflaniad crefyddau hynafol a gwmpaswyd gan y term ‘paganiaeth’ ac ymddangosiad crefyddau newydd Cristnogaeth ac Islam. Mae’n astudio’r trawsnewidiadau hyn mewn ffordd sy’n pwysleisio cysylltiadau a rhyngweithiadau rhwng byd Canoldirol yr Ymerodraeth Rufeinig a rhanbarthau cyfagos Ewrasia ac Affrica. Mae’n cyhoeddi’n eang ar bob agwedd ar hanes a diwylliant y cyfnod. Mae’n olygydd cyfres enwog y Liverpool University Press, Translated Texts for Historians, sy’n cynhyrchu cyfrolau ffynhonell ar gyfer y cyfnod 300-800, ac ef yw golygydd rhanbarthol yr Oesoedd Cynnar hwyr a Bysantiwm ar gyfer yr Encyclopedia of Ancient History. Mae wedi bod yn Athro Hanes yr Hen fyd ym Mhrifysgol Abertawe ers 2007, ar ôl gweithio yn Maynooth, Manceinion, St Andrews a Chaerlŷr cyn hynny.