Trosolwg
Ymunodd Dr Troy Kaighin Astarte ag Abertawe fel darlithydd (gan ganolbwyntio ar addysgu uwch) ym mis Hydref 2021. Mae ymchwil Troy yn canolbwyntio’n bennaf ar ddau brif faes hyd yn hyn: hanes cyfrifiadureg ac agweddau ffurfiol ar gyfrifiadura.
Ar hyn o bryd mae Troy yn rhoi llai o sylw i'w gwaith ymchwil wrth iddynt ganolbwyntio ar eu gwaith addysgu a goruchwylio - gwaith y mae Troy yn dwlu arno!
Mae Troy yn gysylltiedig ag amryw gymunedau, gan gynnwys Cymdeithas Hanes Mathemateg Prydain (lle maent yn aelod o'r cyngor ac yn wefeistr) a Phwyllgor Cyfrifiadura Hanesyddol Newcastle. Maent yn awyddus i agor Casgliad Hanes Cyfrifiadura Abertawe ar gyfer ymchwil ac addysgu sy'n canolbwyntio ar wrthrychau. Mae Troy yn aelod o grŵp ymchwil rhyngddisgyblaethol PROGRAMme, sy'n ystyried y cwestiwn "Beth yw rhaglen" o safbwynt hanesyddol, athronyddol a thechnegol.
Fel person sy'n uniaethu â’r rhagenwau eu/nhw, mae Troy yn ymrwymedig i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a gwella perfformiad gwan yn y maes hwn.