A photo of Singleton Campus including Singleton park and a view of the sea

Yr Athro Alma Harris

Athro Emeritws (Y Celfyddydau a'r Dyniaethau), Humanities and Social Sciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602681

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae’r Athro Emeritws Alma Harris, FAcSS, FLSW, FRSA wedi dal swyddi fe Athro ym Mhrifysgol Warwick, Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Maleia, Prifysgol Caerfaddon, a Phrifysgol Abertawe. Mae'n adnabyddus yn rhyngwladol am ei hymchwil a'i hysgrifennu ar arweinyddiaeth addysgol, polisi addysg a gwella ysgolion. Yn 2009-2012, bu’n Uwch-gynghorydd Polisi i Lywodraeth Cymru gan gynorthwyo gyda'r broses o ddiwygio'r system gyfan. Cydarweiniodd y rhaglen Cymunedau Dysgu Proffesiynol (CDP) genedlaethol ac arweiniodd ar ddatblygu a gweithredu cymhwyster meistr ar gyfer pob athro newydd gymhwyso yng Nghymru. Mae'n Uwch-gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Addysg Hong Kong. Yr Athro Emeritws Harris yw Llywydd y Gyngres Ryngwladol ar gyfer Effeithiolrwydd Ysgolion a Gwella Ysgolion (ICSEI), sy'n sefydliad sy'n ymroi i wella ansawdd a thegwch mewn addysg. Ym mis Ionawr 2016, derbyniodd wobr oes er anrhydedd ICSEI. Yn 2016, fe'i penodwyd i Gyngor Rhyngwladol y Cynghorwyr Addysg (ICEA) i gynnig cyngor polisi i Brif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog yr Alban. Mae'n Gymrawd Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol, yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ac yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.