Cyhoeddwyd y beirniaid ar gyfer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn 2021 heddiw (8 Rhagfyr).  

Mae rhestr anhygoel o fawrion y byd llenyddol ymhlith y beirniaid gwadd, gan gynnwys cadeirydd newydd y panel ar gyfer 2021, y llenor arobryn, y cyhoeddwr a sylfaenydd Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur, Namita Gokhale; sylfaenydd a chyfarwyddwr Gŵyl Lenyddiaeth Bradford, Syima Aslam; y bardd o Iwerddon a enillodd Wobr Rooney am Lenyddiaeth Wyddelig yn 2020, Stephen Sexton; yr awdur llwyddiannus a enillodd Wobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn 2014, Joshua Ferris; a'r nofelydd a'r academydd o Gymru Francesca Rhydderch.

Mae Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn un o'r gwobrau llenyddol mwyaf clodwiw yn y DU, yn ogystal â bod yn un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd ar gyfer llenorion ifanc. Cynhelir y gystadleuaeth uchel ei bri am yr 16eg tro yn 2021, a bydd y panel o feirniaid yn ymgymryd â'r dasg o ddewis y gwaith llenyddol cyhoeddedig gorau yn yr iaith Saesneg ar draws sawl genre, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a dramâu, a ysgrifennwyd gan awdur 39 oed neu iau.

Meddai Namita Gokhale, cadeirydd y panel o feirniaid: “Mae'n anrhydedd anhygoel i gyfrannu unwaith eto at gystadleuaeth fywiog ac ysbrydoledig Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe, fel cadeirydd y rheithgor y tro hwn. Mae'r wobr yn unigryw oherwydd y mathau amrywiol o lenyddiaeth sy'n cael eu cynnwys, ehangder ac amrywiaeth y cynigion, a'r ffaith ei bod yn dathlu llenorion rhyngwladol. Mae darllen y rhestr hir yn brofiad dadlennol bob amser, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r rheithgor rhagorol i glustnodi enillydd y wobr ar gyfer 2021.”

Ychwanegodd Elaine Canning, Pennaeth Ymgysylltu a Datblygu Diwylliannol Prifysgol Abertawe: “Rydym yn falch o groesawu panel rhyngwladol llawn llenorion a chyfarwyddwyr gwyliau o fri ar gyfer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn 2021 ac rydym yn edrych ymlaen at dynnu sylw at waith llenorion ifanc o bedwar ban byd pan gyhoeddir y rhestr hir a'r rhestr fer maes o law.”

Mae'r enillwyr blaenorol wedi cynnwys: Bryan Washington am Lot (2020), Guy Gunaratne am In Our Mad and Furious City (2019), Kayo Chingonyi am Kumukanda (2018), Fiona McFarlane am The High Places (2017), Max Porter am Grief is the Thing With Feathers (2016), Joshua Ferris am To Rise Again at a Decent Hour (2014), Claire Vaye Watkins am Battleborn (2013), Maggie Shipstead am Seating Arrangements (2012), Lucy Caldwell am The Meeting Point (2011), Elyse Fenton am Clamor (2010), Nam Le am The Boat (2008) a Rachel Tresize am Fresh Apples (2006).

Cyhoeddir y rhestr hir ar gyfer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe ar 21 Ionawr a bydd digwyddiad ar-lein arbennig yn dilyn yng Ngŵyl Lenyddiaeth Jaipur ym mis Chwefror 2021. Cyhoeddir y rhestr fer ar 25 Mawrth a chynhelir y seremoni wobrwyo ar drothwy Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, sef 13 Mai.

Ceir mwy o wybodaeth am y beirniaid yma.

Rhannu'r stori