Mae'r Sefydliad Diwylliannol yn ganolfan fywiog, groesawgar a chynhwysol o fewn Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae tri nod i'n cenhadaeth sef: hyrwyddo'r celfyddydau a diwylliant i bawb, o'n staff, ein myfyrwyr a'n cyn-fyfyrwyr i ysgolion a chymunedau ledled Cymru a'r tu hwnt; meithrin cydweithrediadau â phartneriaid diwylliannol, llenyddol a chyhoeddi'n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol; a gwella profiad y myfyrwyr drwy gynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd am interniaethau i israddedigion ac ôl-raddedigion.
O Wobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe, i'n cyfres salon llenyddol a'n digwyddiadau arbennig, rhaglenni addysgol sy'n cynnwys prosiect barddoniaeth sy'n canolbwyntio ar hawliau dynol ar gyfer cyfnod allweddol 3, gweithdai traws-gelfyddydol ar gyfer cyfnod allweddol 2 a gŵyl lenyddol newydd am ddim i blant, rydym yn dathlu ac yn hyrwyddo creadigrwydd, dychmygu, trafod a dadlau fel rhannau annatod o'n lles sy'n ein llunio ni fel dinasyddion y byd.
Mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech chi weithio gyda ni neu os oes gennych chi gwestiynau am unrhyw un o'n prosiectau.
Amdanom ni
Yn wreiddiol o Belfast, mae Elaine Canning yn arbenigwr mewn ymgysylltu â'r cyhoedd, yn awdur ac yn olygydd sy'n byw yn Abertawe, de Cymru. Mae ganddi MA a PhD mewn Astudiaethau Sbaenaidd gan Brifysgol y Frenhines Belfast ac MA mewn Ysgrifennu Creadigol gan Brifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd, hi yw Pennaeth Ymgysylltu Diwylliannol a Chyhoeddus Strategol ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas. Yn ogystal ag ysgrifennu monograff a phapurau am ddrama Sbaeneg o'r oes aur, mae hi wedi cyhoeddi nifer o straeon byrion. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Sandstone City, gan Aderyn Press yn 2022. Hi hefyd yw golygydd Maggie O'Farrell: Contemporary Critical Perspectives (Bloomsbury 2024). Mae hi'n aelod o Bwyllgor Cynghori'r British Council ac yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Gydlynydd Ymgysylltu Cyhoeddus a Diwylliannol ym Mhrifysgol Abertawe yw Matthew Hughes.
Ymunodd â'r Sefydliad Diwylliannol yn 2015 ac roedd am integreiddio ei sgiliau mewn ffotograffiaeth, dylunio creadigol a rheoli digwyddiadau mewn prosiectau a oedd yn amrywio o Wobr Dylan Thomas, Gŵyl Bod yn Ddynol a Gŵyl y Gelli. Mae ganddo ddiddordeb brwd yng nghelfyddydau a diwylliant Cymru ac mae wedi hyrwyddo gwaith llawer o bobl greadigol Cymru ar ddechrau eu gyrfaoedd dros y blynyddoedd.
Ymysg prosiectau creadigol eraill, mae Matthew wedi chwarae rôl allweddol fel curadur man geni Dylan Thomas yn Abertawe yn ystod dathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas yn 2014 - gan ymchwilio'n helaeth ac ail-greu ystafell wely'r bardd ar adeg cyhoeddi ei lyfr cyntaf '18 Poems' ym 1934. Yn ei amser hamdden, bydd Mathew yn dogfennu tirwedd newidiol a thrigolion gorllewin Cymru drwy ei ffotograffiaeth.