FELICITY MULFORD - DEILIAD YSGOLORIAETH HERIAU BYD-EANG

Cafodd Felicity Mulford ei magu yng nghyffiniau dinas hardd Rhydychen. Mae hi'n dwlu ar deithio, cael blas ar ddiwylliannau eraill a chadw'n brysur!

Mae byw yn Abertawe wedi galluogi Felicity i gysylltu â'i threftadaeth Gymreig ac olrhain camau ei thadcu. Gan mai Felicity yw'r unig ysgolhaig o Brydain, mae'n mwynhau dangos y Deyrnas Unedig i’w chyd-ysgolheigion.

CEFNDIR ADDYSGOL A GYRFA

Graddiodd Felicity o Brifysgol Leeds â gradd BA anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Daearyddiaeth Ddynol ac yna enillodd radd MA â rhagoriaeth mewn Cysylltiadau Rhyngwladol. Enillodd wobrau am y 'fyfyrwraig fwyaf teilwng' yn yr Ysgol Daearyddiaeth, yn ogystal â'r wobr am y 'Traethawd Estynedig Gorau' yn yr Ysgol Cysylltiadau Rhyngwladol.

Mae Felicity wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau anllywodraethol yn y DU, Fietnam, Sri Lanka, Swaziland a Groeg. Mae'r prosiectau wedi amrywio o ddarparu cymorth mewn canolfan ddydd HIV/AIDs, i addysg, ymchwil i ymgysylltu cymunedol tramor, adeiladu, cadwraeth, marchnata a chymorth gyda digwyddiadau, trefnu dosbarthu dillad a nwyddau i ffoaduriaid a gweithio gyda goroeswyr hil-laddiad mewn gwersyll ffoaduriaid.

Yn ystod ei hamser yn Leeds, nid oedd Felicity yn gaeth i'r llyfrgell o bell ffordd. Hi oedd Ysgrifennydd Cymdeithasol Cymdeithas Chwaraeon Eira'r Brifysgol, rheolwr digwyddiad poblogaidd i fyfyrwyr a Chynrychiolydd Brand platfform digwyddiadau. Ers iddi orfod dychwelyd o ynys Ffilipinaidd anghysbell ar ddechrau pandemig y coronafeirws, mae Felicity wedi gweithio o bell mewn rôl farchnata ar gyfer dau gwmni deillio ym maes Deallusrwydd Artiffisial a reolir gan Brifysgol Rhydychen.

Mae'r holl brofiadau hyn wedi cyfrannu at benderfyniad diwyro Felicity i fod yn rhan o fudiad byd-eang cynaliadwy, i leihau anghydraddoldebau byd-eang ac i weithio i ddiogelu a gwireddu hawliau dynol.

MEYSYDD ARBENIGEDD

Er bod Felicity yn ymddiddori yn sbectrwm eang yr Heriau Byd-eang rydym yn eu hwynebu, mae ei hymchwil flaenorol wedi canolbwyntio ar effaith gwrthdaro a throseddau erchyll torfol ar hawliau dynol.

Yn ystod ei gradd israddedig, arbenigodd mewn Mudo, Lloches a Daearyddiaethau Gwleidyddol, gan ysgrifennu traethawd estynedig ar sut mae'r wasg Brydeinig yn portreadu ffoaduriaid Syriaidd. Amlinellodd y syniadau am natur droseddol ac anghyfreithlondeb sy'n treiddio drwy'r cyfryngau, gan gyfrannu at bolisïau cenedlaethol elyniaethus ac esgeuluso hawliau dynol ceiswyr lloches. Wedi'i hysbrydoli gan yr ymchwil hon, teithiodd Felicity i Roeg i weithio mewn gwersyll ffoaduriaid gyda'r Yazidi, pobl leiafrifol a oedd yn cael eu herlid gan ISIS.

Wedyn, wrth astudio am ei gradd Meistr, cafodd Felicity gyfle i archwilio meysydd academaidd gwrthdaro, argyfyngau cymhleth a chyfiawnder byd-eang. O ganlyniad i’w phrofiadau yn y gwersyll ffoaduriaid, dwysaodd ei diddordebau mewn atal troseddau torfol erchyll; felly, ar gyfer ei thraethawd estynedig, canolbwyntiodd ar y gwrthdaro parhaus yn Yemen a rôl y safon 'Cyfrifoldeb i Ddiogelu' mewn atal troseddau erchyll.

Drwy ei hymchwil i Yemen, agorwyd llygaid Felicity i hyd a lled dioddefaint pobl Yemen. Yn ogystal â throseddau erchyll torfol niferus, mae’r gwrthdaro wedi arwain at fethiant gwasanaethau cyhoeddus ac mae rhwystro dosbarthiad cymorth wedi cyfrannu at newyn torfol. Yn ystod y rhaglen Heriau Byd-eang, bydd Felicity yn parhau i ymchwilio i'r materion hyn drwy weithio gyda Chydymffurfiaeth Hawliau Byd-eang ar eu  prosiect 'Atebolrwydd am Newyn' gan gydweithredu â Sefydliad Heddwch y Byd.  

Ers ymuno â'r rhaglen, mae Felicity wedi bod yn rhan o grŵp o academyddion a newyddiadurwyr sy'n cofnodi’r gwrthdaro parhaus yn Tigray. Mae hi wedi cyfrannu'r bennod ‘Humanitarian Situation, Aid, Food Security and Famine’ at y gwaith ‘The Tigray War and its Regional Implications’. Nod y grŵp yw codi proffil y gwrthdaro ymysg y gymuned ryngwladol, er mwyn gwella'r tebygolrwydd o sicrhau atebolrwydd am droseddau yn erbyn hawliau dynol yn Tigray.

UCHELGEISIAU A GOBEITHION AM Y DYFODOL

"Mae gen i lawer o obeithion am y dyfodol. Gobeithio cynyddu fy mhrofiad ymarferol fel y gallaf helpu i gyflwyno polisïau effeithiol a fydd yn cael effaith ymarferol ac ystyrlon ar fywydau pobl.

Mae Covid-19 wedi dangos pa mor gyd-gysylltiedig yw ein byd. Mae hi’n frawychus pa mor gyflym mae Covid-19 yn cynyddu anghydraddoldebau byd-eang, gan ddadwneud gwaith caled llawer o unigolion a sefydliadau ledled y byd. Gobeithio'n wir y gallwn reoli'r pandemig, fel y gall y gwaith pwysig barhau, gall bywydau wella, gallwn wireddu hawliau dynol, ehangu cyfleoedd ac amddiffyn yr hinsawdd. Un byd ydym ni, yn wynebu llawer o broblemau. Credaf y dylen ni atgoffa ein gilydd o'n dynoliaeth gyffredin a chydweithio i ddatrys y problemau dybryd hyn."

CYDWEITHREDIADAU FELICITY A PHROSIECTAU MAE HI WEDI GWEITHIO ARNYNT

LEAF UK

Ymchwilydd, Ymgysylltu Cymunedol Tramor

LEAF UK logo

The Tigray Conflict: The Humanitarian Situation; Aid, Food Security and Famine

Awdur

The Tigray Conflict: The Humanitarian Situation; Aid, Food Security and Famine

Tigray War and Regional Implications Cyfrol 2

Awdur – Pennod Llyfr

Eritrea Hub logo