Datblygu datrysiadau i broblemau peirianneg cymhleth
Dros y 30 mlynedd diwethaf mae Prifysgol Abertawe wedi chwarae rhan flaenllaw mewn gwaith ymchwil rhyngwladol ym maes peirianneg gyfrifiadurol.
Rydym wedi gwneud datblygiadau arloesol ym maes technegau rhifyddol, fel y dull elfen feidraidd a'r gweithdrefnau cyfrifiadurol cysylltiedig sydd wedi helpu i ddatrys llawer o broblemau peirianneg cymhleth.
Rydym wedi bod yn ffigur blaenllaw wrth chwyldroi ymarfer dadansoddi peirianneg ddiwydiannol, gan ddefnyddio dulliau modelu cyfrifiadurol effeithlon a chywir. Yn 2016, gwnaethom ehangu ym maes Aerodynameg Arbrofol gyda'n twnnel gwynt newydd o'r radd flaenaf, a ddefnyddir at ddibenion ymchwil aerodynamig ac aeroelastig.
Enw blaenorol Canolfan Zienkiewicz ar gyfer Peirianneg Gyfrifiadurol (ZCCE) oedd y Ganolfan Peirianneg Sifil a Chyfrifiadurol (C2EC).