Adeilad yn y brifysgol

Prifysgol ymchwil breifat a sefydliad sy’n derbyn grantiau gofod yw Sefydliad Polytechnig Rensselaer (RPI) yn Troy, Efrog Newydd. Mae’r byd yn galw am bobl sy’n gallu datrys problemau ym meysydd ynni adnewyddadwy, seiberddiogelwch, biotechnoleg, gwyddoniaeth deunyddiau a nanotechnoleg er mwyn mynd i’r afael â’r problemau dybryd sydd gennym heddiw ynghyd â’r problemau a fydd yn ymddangos yn y dyfodol. Mae Sefydliad Polytechnig Rensselaer yn noddi 23 o chwaraeon ac mae 21 ohonynt yn cystadlu ar lefel III yr NCAA yng Nghynghrair Liberty. Mae ei thimau athletau, a adwaenir fel RPI Engineers, wedi bod yn llwyddiannus iawn ym maes Hoci Iâ ac mae’r tîm wedi’i gefnogi gan ei fasgot hoci iâ swyddogol, Puckman. Cnap hoci anthropomorffig yw Puckman, sy’n gwisgo helmed peiriannydd. Gan ystyried agosrwydd y brifysgol at y Berkshires, y mynyddoedd Green a’r mynyddoedd Adirondack, mae’r clwb sgïo a’r clwb gweithgareddau awyr agored ymysg y clybiau mwyaf ar y campws. Mae’r clwb sgïo’n cynnig teithiau wythnosol i ardaloedd sgïo lleol yn ystod misoedd y gaeaf.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.