Lleolir Prifysgol Talaith New Mexico ar gampws 900 o erwau; mae’n goleg blaenllaw cyhoeddus sy’n derbyn grantiau tir ynghyd â grantiau gofod gan NASA sydd wedi cael ei ddisgrifio gan Sefydliad Carnegie fel “Prifysgol R-2 sy’n dyfarnu Doethuriaethau, gyda gweithgarwch ymchwil uwch”. Mae band gorymdeithio clodfawr Prifysgol Talaith New Mexico’n enwog am ei berfformiadau cyhoeddus sy’n darparu adloniant yn ystod digwyddiadau’r coleg, gorymdaith Dydd Calan Llundain a dwsinau o gyfnodau hanner amser yr NFL. Y band yw gogoniant New Mexico ac mae’n cynnwys tua 200 o gerddorion, dawnswyr  a pherfformwyr cynorthwyol. Cyn pob gêm bêl-droed ym Mhrifysgol Talaith New Mexico, mae cefnogwyr yn aros i Smoki the Wonder Dog, sef ci defaid a masgot y Brifysgol, ddwyn y ti cicio o’r maes pêl-droed.

Mae’r tywydd yn amrywio drwy gydol y flwyddyn felly gwnewch yn siŵr eich bod yn pacio dillad twym sy’n addas i’r gaeaf a dillad cotwm oer ar gyfer yr haf. Peidiwch ag anghofio i drio rhai o'r bwydydd blasus yn y bwytai lleol a chymryd trip i rai o'r amgueddfeydd (sy'n cynnwys rhai hanesyddol, diwylliannol a thechnolegol) a'r ardaloedd o harddwch naturiol o fewn y dalaith.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.