Enw'r brifysgol ar wal y tu fas i'r campws

Lleolir Prifysgol Talaith Colorado yn Fort Collins ar waelod Mynyddoedd Rocky deheuol. Mae llawer o weithgareddau y gallwch ymwneud â hwy yn ystod eich arhosiad, gan gynnwys 325 o sefydliadau i fyfyrwyr a 34 o gymdeithasau anrhydedd. P’un a fyddai’n well gennych ddringo wal 55-troedfedd o uchder yng Nghanolfan Hamdden y Myfyrwyr, ysgrifennu newyddion y dydd i bapur y Rocky Mountain Collegian, ymuno ag un o’r brawdoliaethau neu’r chwaeroliaethau lluosog, neu gymryd rhan yn llywodraeth y myfyrwyr, y chwaraeon mewnfurol neu’r orsaf radio ar y campws, mae rhywbeth i bawb. Cafwyd llawer o fasgotiaid dros y blynyddoedd ond CAM the Ram, a enwyd yn ystod hanner amser gêm pêl-fasged, yw’r masgot annwyl ar hyn o bryd. Mae gan Dalaith Colorado 16 o chwaraeon NCAA Cynghrair I, gyda miloedd o gefnogwyr Ram. Ymunwch yn hwyl “Ram Ruckus” a manteisiwch ar y tocynnau sydd ar gael am ddim i israddedigion amser llawn.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.