Stadiwm yn llawn cefnogwyr

Prifysgol ymchwil gyhoeddus yw Prifysgol Oklahoma yn Norman, Oklahoma, 20 munud yn unig i’r de o ddinas Oklahoma. Mae Prifysgol Oklahoma’n noddi llawer o ddigwyddiadau chwaraeon colegol yn Norman; Mae’n enwog am ei thîm pêl-droed, a elwir yn “Sooners”, sydd wedi ennill saith Pencampwriaeth Pêl-droed Genedlaethol ar lefel Cynghrair I yr NCAA gydag 80,000 o bobl yn gwylio’u gemau’n rheolaidd. Gyda thair canolfan hamdden, maes golff ac ardal ymarfer golff, cyfadeilad nofio cyflawn gyda sleidiau dŵr, pwll padlo, 32 o gyrtiau tennis, 16 o feysydd pêl-droed, 14 o feysydd pêl fas/pêl feddal a phedwar maes pêl-droed, bydd llawer i’ch cadw chi’n brysur. Mae hinsawdd Oklahoma’n isdrofannol, gyda hafau llaith a gaeafau oer, ceir tornados a thywydd garw yn ystod mis Ebrill a mis Mai fel arfer. Gallwch fynd i lawer o ddigwyddiadau dathliadol yn lleol, gan gynnwys perfformiadau cerddorol, gwyliau’r celfyddydau a Mardi Gras!

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.