Myfyrwyr yn eistedd o amgylch fwrdd

Prifysgol flaenllaw’r dalaith yw Prifysgol Kansas ac mae’n un o 62 yn unig o brifysgolion a wahoddwyd i fod yn aelodau o gymdeithas glodfawr prifysgolion America (AAU). Lleolir y prif gampws ym Mount Oread, sef y safle uchaf yn Lawrence. Beth am gymryd rhan yn y twrnamaint dadlau cenedlaethol yn ystod eich amser yma? Mae Prifysgol Kansas wedi ennill 6 gwaith ac mae wedi cyrraedd y rownd derfynol gyda 15 o dimau. Efallai y byddai’n well gennych ysgrifennu ar gyfer papur newydd y coleg sef University Daily Kansan. Enillodd hwn y safle cyntaf yng Nghystadleuaeth Ysgrifennu Ryng-golegol 2007 ar gyfer gwobr Sylfaen Ysgrifennu William Randolph Hearst, y cyfeirir ati yn aml fel “Gwobr Pullitzer Newyddiaduraeth Colegau”. Os byddai’n well gennych ymgymryd â gweithgareddau athletaidd, dylech chi ystyried cystadlu dros un o’r llawer o dimau chwaraeon fel Kansas Jayhawk, gan wisgo lliwiau rhuddgoch a glas brenhinol arbennig y Brifysgol. Ceir dros 600 o sefydliadau myfyrwyr i chi ddewis ohonynt felly bydd rhywbeth i bawb. Yn 2005, enwyd Lawrence yn “un o’r trefi colegau bach gorau” yn y wlad gan Rolling Stone. Dylech ymweld â’r bar a’r lleoliad cerddoriaeth lleol, The Replay Lounge. Yn 2007, fe’i henwyd gan gylchgrawn Esquire fel un o’r 25 o fariau/leoliadau gorau yn y wlad.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.