Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Prifysgol ymchwil gyhoeddus yn Illinois yw Prifysgol Illinois Urbana-Champaign a dyma sefydliad blaenllaw System Prifysgolion Illinois. Lleolir y sefydliad sy’n derbyn grantiau tir yn nwy ddinas Champaign ac Urbana. Mae’r Brifysgol yn gweithredu parc ymchwil sy’n gartref i dros 90 o gwmnïau newydd a chorfforaethau amlwladol. Mae gan y campws ddau brif gyfleuster hamdden i fyfyrwyr eu mwynhau, sef y Ganolfan ar gyfer Gweithgareddau a Hamdden (ARC) a Chanolfan Hamdden y Campws – Dwyrain (CRCE). Mae CRCE yn cynnig pwll dan do gyda sleid dŵr, pêl foli, pêl fasged a thwb dŵr poeth. Mae’r cyfleuster hwn yn “un o’r canolfannau hamdden mwyaf ar gampws yn y wlad.” Gweithredir y campws a system fysiau’r gymuned gan system Champaign-Urbana Mass Transit District; telir ffi am deithio i’r system hon gan y Brifysgol i roi mynediad diderfyn i’w myfyrwyr i’w gwasanaethau, felly dylai mynd hwnt ac yma fod yn rhad ac yn hawdd. Lleolir rhan fwyaf o gampws Prifysgol Illinois Urbana–Champaign yn Urbana, yma ceir digwyddiadau lleol rheolaidd megis y Farchnad yn y Sgwâr, a adwaenir hefyd fel Marchnad y Ffermwyr. Digwyddiad cymunedol yw hwn a gynhelir bob bore Sadwrn o fis Mai i fis Tachwedd; bydd dwsinau o werthwyr yn gosod stondinau ym maes parcio Sgwâr Lincoln yng nghanol tref Urbana. 

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.