Adeilad hardd gyda blodau a choedwig ar ddiwrnod braf o haf

Prifysgol ymchwil, gyhoeddus yw Prifysgol De Carolina, yn Columbia, De Carolina. Mae rhaglenni Busnes Rhyngwladol israddedig a graddedig Prifysgol De Carolina wedi bod ymysg tair rhaglen orau'r wlad ers dros ddegawd. Mae campws Prifysgol De Carolina'n cynnwys 25 o neuaddau preswyl a gall myfyrwyr gymryd rhan mewn unrhyw rai o'r 540 o sefydliadau cofrestredig i fyfyrwyr sy'n cynnwys clybiau a chwaraeon mewnol a rhyng-golegol. Gelwir y timau athletau yn Gamecocks ac maent yn gwisgo lliwiau garned a du. Lleolir Columbia tua hanner ffordd rhwng  Môr yr Iwerydd a'r Mynyddoedd Blue Ridge ac mae'n 292 o droedfeddi uwchben y môr. Mae gan Columbia hinsawdd isdrofannol, llaith, gyda gaeafau mwyn, gwanwynau cynnar, hydrefau twym a hafau poeth a llaith iawn. Un o asedau gorau Columbia yw Sŵ a Gardd Riverbanks. Gwarchodfa yw Sŵ Riverbanks ar gyfer mwy na 2,000 o anifeiliaid, sy'n byw mewn ardaloedd sy'n debyg i'w cynefin naturiol ar hyd afon Saluda.  Ar draws yr afon, ceir gerddi, coetiroedd, casgliadau planhigion ac adfeilion hanesyddol yn yr ardd fotaneg 70 o erwau. Enwyd Riverbanks yn un o sŵau gorau America a'r atyniad gorau i deithwyr yn y de-ddwyrain.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.