Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Mae Prifysgol Astudiaethau Tramor Beijing (BFSU) yn brifysgol ymchwil arbenigol o fri ag iddi enw da yn ninas Tsieina sy’n gartref i 21.5 miliwn o bobl – poblogaeth enfawr! Bydd y dirwedd yn hollol wahanol i’r hyn rydych yn gyfarwydd â hi yng Nghymru – tri bryn yn unig sydd yn y ddinas.Paratowch am hafau cynnes a llaith a gaeafau oer a sych. Mae gan y Brifysgol  23 o ysgolion ac adrannau, ac mae wedi’i rhannu i ddau gampws (gorllewin a dwyrain). Trefnir ein llety ar y campws fel rhan o’r broses gwneud cais i astudio dramor. 

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.