Lleolir Universidad de Extremadura yn ne-orllewin Sbaen, ar y ffin â Phortiwgal. Fel myfyrwyr cyfnewid sy'n astudio Sbaeneg, cewch eich lleoli ar gampws Cáceres. Mae'r hinsawdd yn ne Sbaen yn debyg i hinsawdd gynnes Môr y Canoldir: diwrnodau poeth a nosweithiau braidd yn oer gyda gwanwynau glawog a hafau sych. Mae gan y brifysgol lawer o gymdeithasau chwaraeon a diwylliannol y gall myfyrwyr gymryd rhan ynddynt, yn amrywio o bêl-fasged i ddawns, a chynigir cyrsiau iaith ychwanegol hefyd os ydych yn awyddus i wella'ch Sbaeneg! Nid yw'r brifysgol yn cynnig llety mewn neuaddau preswyl; mae'n rhaid i fyfyrwyr cyfnewid chwilio am lety preifat pan fyddant yn cyrraedd Extremadura. Bydd y Gymdeithas Myfyrwyr Rhyngwladol yn helpu myfyrwyr i chwilio am lety, a rhoddir rhestr o gysylltiadau iddynt ar gyfer fflatiau i'w rhannu.