Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Lleolir Lingnan yn Tuen Mun Hong Kong, 30 munud o Ddinas Hong Kong a Shenzhen yn Tsieina. Mae'r hafau yn Hong Kong yn hir, yn boeth ac yn fwll. Mae'r gaeafau'n fwyn iawn ar y cyfan ond ceir awel oerbraf o'r môr. Gall teiffwnau fwrw Hong Kong rhwng mis Mehefin a mis Medi. Mae gan Lingnan nifer cymharol fach o fyfyrwyr a rhoddir pwyslais ar gydberthnasau agor rhwng myfyrwyr a'r gyfadran sy'n golygu y cewch ddigon o gymorth yn ystod eich amser yno. Mae cyrsiau iaith rhagarweiniol ar gael i fyfyrwyr a gallant wneud cais am lety ar y campws.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.