Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Lleolir y brifysgol hon yn ardal Kowloon Tong, nid nepell o Barc Gwledig Lion Rock. Mae'r hafau yn Hong Kong yn hir, yn boeth ac yn fwll. Mae'r gaeafau'n fwyn iawn ar y cyfan ond ceir awel oerbraf o'r môr. Gall teiffwnau fwrw Hong Kong rhwng mis Mehefin a mis Medi. Mae CityU yn brifysgol gymharol newydd sy'n perfformio'n dda mewn tablau ymchwil. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael i fyfyrwyr ar y campws felly dylech fod yn barod i chwilio am lety oddi ar y campws.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.