Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Lleolir Université Saint-Louis Bruxelles ym mhrifddinas Gwlad Belg, sef Brwsel.Mae Brwsel yn ddinas ddwyieithog lle mae Ffrangeg ac Iseldireg (Ffleminaidd) yn ieithoedd swyddogol. Mae Saesneg wedi dod yn iaith a siaredir gan lawer oherwydd y sefydliadau sefydliadol ym Mrwsel, megis y Comisiwn Ewropeaidd, Senedd Ewrop a NATO.Mae hafau’n tueddu i fod yn oerach nag yn y DU ond mae’n llaith sy’n golygu ei bod hi’n teimlo’n gynhesach, ac mae’r gaeafau’n oer (ond prin y mae’n bwrw eira). Mae’r gwasanaethau cludiant yn ardderchog, yn enwedig gyda’r trenau a’r Eurostar, sy’n golygu bod Lille, Paris a Llundain yn hawdd eu cyrraedd o Frwsel. Mae siocled a wafflau yn brif ran o ddiet Gwlad Belg, felly mae’n lle perffaith i’r rhai hynny sydd â dant melys! Mae gan Saint-Louis bedair cyfadran sy’n cynnwys sbectrwm y gwyddorau dynol ac iechyd a Sefydliad Astudiaethau Ewropeaidd. Oblegid hyn, mae’n gyrchfan deniadol i fyfyrwyr. Mae digon o lety ar gael i fyfyrwyr cyfnewid, ac mae amrywiaeth o ystafelloedd ar gael ar y campws. 

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.