Myfyrwyr yn astudio gyda'i gilydd

Prifysgol Aarhus yw'r brifysgol ymchwil fwyaf a'r ail hynaf yn Nenmarc ac mae ganddi safle yn y 100 uchaf o brifysgolion gorau'r byd. Mae'r Brifysgol yng nghanol Aarhus ac mae parc y Brifysgol yng nghanol y prif gampws. Y gymdeithas fwyaf i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aarhus yw Undeb y Myfyrwyr (Studenterrådet) sy'n cynrychioli prif gorff y myfyrwyr ac yn trefnu cyngherddau a seminarau blynyddol, ac yn cyhoeddi cylchgrawn y myfyrwyr, sef Delfinen (y Dolffin).  Bob blwyddyn, mae mwy na 1000 o fyfyrwyr cyfnewid rhyngwladol yn astudio ym Mhrifysgol Aarhus am dymor neu ddau, ac yn 2011 agorwyd Dale’s Café fel lle cwrdd i fyfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr PhD y brifysgol.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.