Mae unrhyw gyfeiriad at gostau, ffioedd, tystiolaeth ariannol a gwybodaeth am fisâu at ddibenion arweiniad cyffredinol yn unig ac yn amodol ar newid ar unrhyw adeg.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at wybodaeth a ddarperir gan brifysgolion lletyol a thudalennau gwe llywodraeth/llysgenhadaeth y wlad dan sylw am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mae Prifysgol Wilfrid Laurier wedi ei lleoli yn Ontario, Canada. Gall fyfyrwyr cyfnewid dewis i astudio ar gampws Waterloo neu ar gampws Brantford. Y campws Waterloo yw’r un mwyaf, ac mae’n gartref i Gyfadrannau’r Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Cherddoriaeth, a’r Ysgol Fusnes ac Economeg Lazaridis. Mae’r campws Brantford yn cynnig cyrsiau yn y Celfyddydau Rhyddfrydol, y Gwyddorau Dynol a Chymdeithasol, a Busnes ac Economeg. Mae’r ddau gampws yn agos iawn i Toronto, Niagra Falls, Stratford a’r Llynnoedd Mawr, felly’n eu gwneud yn lleoliadau gwych er mwyn anturio o gwmpas Canada yn ystod y penwythnosau neu dros hanner tymor.
Mae tîm varsity Wilfrid Laurier, y Golden Hawks, ynghyd â chymuned glòs y brifysgol, yr athrawon ymroddedig a’r gweithgareddau allgyrsiol amrywiol, i gyd yn cyfrannu at ysbryd campws hyfryd a bywiog. Bydd myfyrwyr cyfnewid yn gallu mwynhau pedwar tymor Canada, o ddiwrnodau cynnes yr hydref a gaeafau eiraog, i flodau hardd y gwanwyn a’r hafau heulog, felly’n wneud pob tymor yn brofiad unigryw. Mae llety ar safle’r brifysgol ar gael i fyfyrwyr cyfnewid.
Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u gohirio, yn ystod cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.
Pwy sy'n gallu astudio yma?
Gall fyfyrwyr sy’n astudio’r pynciau canlynol cael y cyfle i astudio dramor ar raglen cyfnewid yn y brifysgol hon: Gwyddorau Biofeddygol*, Biowyddorau*, Busnes*, Cemeg, Cyfrifiadureg, Troseddeg, Astudiaethau Plentyndod, Economeg, Addysg, Llenyddiaeth Saesneg, Daearyddiaeth* Hanes & Y Clasuron, Mathemateg, Y Cyfryngau*, Athroniaeth, Ffiseg, Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, Seicoleg, Cymdeithaseg a Gwyddor Chwaraeon.
*Gwyddorau Biofeddygol: gan gynnwys y rhai sy’n astudio Y Gwyddorau Meddygol Cymhwysol, Biocemeg, Geneteg, Ffarmacoleg Feddygol, Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Poblogaethau, Microbioleg.
*Biowyddorau: ar gyfer fyfyrwyr sy’n astudio gradd yn y Fiowyddorau (Gwyddorau Biolegol, Bioleg y Môr, Sŵoleg)
*Busnes: ar gyfer holl fyfyrwyr Yr Ysgol Reolaeth
*Daearyddiaeth: gan gynnwys y rhai sy’n astudio Gwyddorau yr Amgylchedd
*Y Cyfryngau: gan gynnwys y rhai sy’n astudio Newyddiaduraeth, Ffilm a Diwylliant Gweledol
Nid yw lleoedd yn warantedig, gallent fod yn gyfyngedig, ac mae pob myfyriwr ar raglen blwyddyn dramor yn destun i broses ddethol gystadleuol ar draws y brifysgol.