CYSTADLEUAETH ADOLYGU LLYFRAU 2026

Ar 14 Mai, cyhoeddwyd enwau enillwyr cystadleuaeth adolygu llyfrau DylanED 2026. Gwnaeth disgyblion a myfyrwyr o ysgolion a cholegau ar draws Abertawe gymryd rhan yng nghystadleuaeth 2026, gan gynhyrchu adolygiadau huawdl, synfyfyriol a theimladwy o'r llyfrau a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2026.

Winners and shortlisted authors on stage

Ysgrifennwyd yr adolygiadau buddugol gan Eryn Thomas (Coleg Gwyr); Leila Yau (Ysgol Gyfun Y Pant); Samuel Eadon-Crosby (Coleg Gwyr); Harley-May Pitman (Ysgol Gymuned Llangatwg); Blue Charles (Coleg Gwyr); Autumn Childs (Coleg Castell-nedd Port Talbot); Esme Blunden (Ysgol Gyfun Y Pant); Kali Davies (Coleg Castell-nedd Port Talbot) Rhian Williams (Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe).

Derbyniodd yr enillwyr eu tlysau, a chopi o’r chwe llyfr ar y rhestr fer yn seremoni wobrwyo 2026 gan noddwr y Wobr, Jeff Towns, ac awduron y llyfrau a adolygwyd ganddynt.